Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os hoffech wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned wrth fagu sgiliau, hyfforddiant a phrofiad gwerthfawr, ac yn gallu ymroi i wirfoddoli o leiaf 16 awr y mis, yna gall yr Heddlu Gwirfoddol fod yn addas i chi.
Daw Swyddogion Gwirfoddol o bob cefndir ac o bob cefndir ethnig, ond maent i gyd yn rhannu dyhead i wneud eu cymunedau’n fwy diogel a chydlynol.
Gallwch wneud cais yn 17 oed, ond ni fyddwn yn cynnig lle i chi hyd nes eich bod yn 18 oed. Rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU yn rhydd o gyfyngiadau.
I wneud cais i fod yn Swyddog Gwirfoddol rhaid i chi fod ag o leiaf un cymhwyster Lefel 3 (er enghraifft, NVQ Lefel 3 neu ddwy Lefel A) ac wedi pasio o leiaf.
Os nad oes gennych y cymhwyster hwn, ond eich bod yn teimlo bod eich profiad yn cyfateb i’r uchod, mae cyfle i chi gymryd prawf yn ystod y broses wneud cais a fydd yn asesu eich addasrwydd.
Mae’n rhaid bod gennych y cymhwyster pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Ni allwn dderbyn ‘graddau disgwyliedig’ gan y bydd rhaid i chi gyflwyno copïau o’ch tystysgrifau fel rhan o’ch cais.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen y ddogfen cymhwysedd Coleg Plismona(Saesneg yn unig) ynghlwm i ymgyfarwyddo â hyn cyn eich bod yn cwblhau eich cais.
Gallwch wneud cais yn 17 oed, ond ni fyddwn yn cynnig lle i chi hyd nes eich bod yn 18 oed.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd gwlad sy'n aelod o Ardal Economaidd Ewrop (AEE), neu'r Swistir. Mae dinasyddion y Gymanwlad a gwladolion tramor sy'n trigo yn y DU ac yn rhydd o gyfyngiadau'n gymwys i ymgeisio hefyd. Ar ôl 30 Mehefin 2021, bydd gwladolion o AEE neu'r Swistir hefyd yn gorfod rhoi tystiolaeth bod eu harhosiad yn rhydd o gyfyngiadau.
Wedi bod yn preswylio'n barhaus yn y DU am gyfnod o 3 blynedd yn syth cyn cyflwyno eich cais.
Nid ydym yn gallu eich ystyried os oes gennych ddyfarniadau Llys Sirol heb eu talu, neu Gytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) neu wedi eich cofrestru’n fethdalwr o fewn y tair blynedd diwethaf.
Mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma.
Mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma.
Os ydych yn aelod o’r BNP neu sefydliad tebyg – neu wedi bod yn aelod – nid ydych yn gymwys i wneud cais.
Caniateir tatŵs yn Heddlu Gogledd Cymru, ond rhaid iddynt beidio â bod yn sarhaus na thanseilio urddas ac awdurdod eich rôl.
Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi anfon llun atom a disgrifiad o'ch tatŵs.
Rhai enghreifftiau o datws na fyddem yn eu derbyn yw:
Rydym angen bod yn sicr ein bod ni yn recriwtio pobl o’r radd flaenaf, felly mae ein proses ymgeisio yn cynnwys sawl cam heriol.
Hyd yn oed pe byddech yn llwyddo i gyflawni nhw i gyd nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig swydd gennym. Mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng gofynion gweithredol yr Heddlu a nifer y swyddi gwag.
Os ddaru chi lwyddo gyda’r meini prawf yn y cwis cymhwyster uchod ac eisiau gwneud cais, darllenwch y gwybodaeth isod os gwelwch yn dda i gael y manylion yn llawn am y camau ynghyd.
Crëwch broffil a chofrestrwch eich manylion ar ein system e-recriwtio.
Os ydych hefyd wedi gwneud cais i heddlu arall yn defnyddio’r system hon, bydd rhaid i chi greu proffil ar wahân ar gyfer eich cais i Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn oherwydd bod heddluoedd eraill yn ymdrin â’r broses geisiadau yn wahanol.
Mae’r rhan gyntaf o’r broses yn gofyn cwestiynau er mwyn penderfynu os ydych yn gymwys i wneud cais.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael cymorth i fynd drwy’r broses. Yn gyntaf, bydd rhai profion – os ydych yn eu pasio byddwch yn symud ymlaen i gwblhau’r ffurflen.
Nid oes rhaid i chi gwblhau’r ffurflen i gyd mewn un sesiwn, gallwch symud ymlaen fel y mynnwch.
Gallwch gael mwy o wybodaeth yn y dogfennau arweiniad hyn:
Yn dibynnu ar yr atebion yr ydych wedi eu cynnig, efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu eich cais.
Os oes unrhyw broblemau i’w trafod gyda chi, byddwn yn cysylltu â chi.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn annog ein staff a’n swyddogion i gyd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Felly gofynnwn i recriwtiaid newydd i ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (cymhwysedd lefel 1).
Bydd yr adolygiad yn digwydd mewn modd anffurfiol gyda siaradwr Cymraeg ystyrlon, ac rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu cyflawni’r lefel gofynnol ar gyfer rôl.
Mae gennym hefyd adnoddau dysgu a all eich helpu gyda’ch dysgu. Nodwch mai adolygiad llafar yw hwn ac nid oes prawf ysgrifenedig.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl neu os aethoch i ysgol Gymraeg yna ni fydd rhaid i chi gwblhau’r adolygiad. Bydd hwn yn cael ei wirio yn ystod y broses.
Pwrpas y cyfweliad yw i ni ddeall mwy amdanoch chi fel unigolyn a’ch gwerthoedd a’ch daliadau.
Bydd yn para tua 30 munud ac wedi ei seilio ar:
Rydym yn hyblyg o ran yr iaith a ddefnyddir yn y cyfweliad. Byddech angen gadael i ni wybod os ydych am siarad Cymraeg neu Saesneg, neu gyfuniad o’r ddwy os yw hynny yn haws i chi.
Nid prawf o’ch sgiliau Cymraeg yw’r cyfweliad.
Bydd eich manylion yn cael eu gyrru i’r uned Fetio i gynnal gwiriadau cefndir. Bydd ein Tîm Recriwtio yn cael tystlythyrau gan eich cyflogwr cyfredol neu flaenorol neu sefydliad academaidd.
Bydd gofyn i chi rhoi sampl DNA ac olion bysedd i’w cadw yng Nghronfa Ddata er Dileu’r Heddlu.
Bydd gofyn i chi gymryd prawf cyffuriau.
Nid yw plismona erioed wedi bod yn waith hawdd. Fel swyddog heddlu bydd rhaid i chi ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd fydd yn galw am nerth a ffitrwydd corfforol.
Byddwch angen nerth, ystwythder a stamina i ddelio’n effeithiol â sefyllfaoedd ynghyd ag amddiffyn eich hun ac eraill. Bydd rhaid i chi hefyd fod yn ffit er mwyn gallu trin offer yr heddlu’n ddiogel a gweithio sifftiau.
Er mwyn sicrhau eich bod yn ddigon ffit, bydd rhaid i chi gwblhau prawf ffitrwydd.
Dysgwch mwy am beth yw’r prawf (PDF).
Mae swyddogion gwirfoddol yn gwneud y prawf ffitrwydd yn ystod y cwrs hyfforddiant cychwynnol. Os ydych yn methu â phasio’r prawf, ni fyddwch yn gallu parhau fel Gwirfoddolwr – ond os ydych mewn trafferthion byddem yn eich cefnogi chi. Rydym eisiau i chi lwyddo!
Bydd gofyn i chi lenwi holiadur hanes meddygol. Ar ôl i'n Huned Iechyd Galwedigaethol asesu'r holiadur, byddwch yn cael eich gwahodd am feddygol wyneb i wyneb. Bydd gofyn i chi ddod â chrynodeb meddygol eich meddyg teulu, sydd ar gael o'ch meddygfa.
Safonau meddygol cymeradwy (Gov.uk)
Safonau Golwg (Gov.uk)
Unwaith fydd y broses wedi’i chwblhau a’r wybodaeth wedi ei gasglu, byddem yn penderfynu os ydym am gynnig swydd i chi.
Pe byddech yn llwyddiannus, byddem yn ysgrifennu i gynnig lle i chi. Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi fynychu holl ddyddiadau hyfforddiant ar gyfer y derbyniad hwn.