Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn Heddlu Gogledd Cymru rydym am wneud gwahaniaeth.
Mae swyddogion gwirffoddol o bob cefndir gwahanol wedi dod at ei gilydd i adrodd eu straeon.
"Ro’n i wedi bod eisiau bod yn Swyddog Heddlu erioed, ond ar un adeg roedd rhaid i swyddogion fod yn 5 troedfedd 6 modfedd o daldra. Felly mi wnes i ddilyn fy ail ddewis mewn gyrfa sef, nyrsio seiciatryddol. Rwyf wedi cael gyrfa lwyddiannus ac wedi bod mewn nifer o swyddi rheoli ac nawr dw i’n arbenigo mewn estheteg a llesiant.
Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael y cyfle i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ac rwyf yn gwerthfawrogi a pharchu yr holl swyddogion dw i wedi cyfarfod ar hyd y ffordd.
Rwyf yn argymell ymuno â’r Swyddogion Gwirfoddol i bawb dw i’n nabod, mae’n fraint gallu rhoi yn ôl i’r gymuned peth o fy mhrofiad ym maes nyrsio, ynghyd â’r profiadau newydd dw i wedi cael yn yr heddlu."
"Mi wnes i ddechrau fy ngyrfa yn Heddlu Swydd Caer fel aelod o staff yr heddlu ac nawr dw i’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru fel aelod o staff hefyd. Ro’n i eisiau ymuno fel Swyddog Gwirfoddol gan bod gen i wybodaeth gyffredinol dda o sut mae swyddi gweinyddol staff yn gweithio o fewn yr heddlu ac ro’n i hefyd am weld sut oedd bod yn weithredol. Hefyd ro’n i’n teimlo bod fy rôl gefnogol o fewn y staff yn gallu bod yn ddefnyddiol ar gyfer y swyddogion parhaol.
Ers ymuno dw i wedi mwynhau’r rôl yn arw; nid yw un shifft yn debyg i’r llall a does dim dal beth fydd yn codi. Dw i wedi dysgu cymaint am blismona gweithredol ac mae cymaint mwy i ddysgu. Dw i wedi cwrdd â ffrindiau newydd ac wedi cael profiadau anhygoel.
Mae bod yn Swyddog Gwirfoddol yn ffordd wych i roi syniad i chi o sut beth yw bod yn swyddog parhaol (os ydych yn ystyried plismona fel gyrfa). Mae hefyd yn ffordd wych o dreulio eich amser sbâr yn helpu pobl a gwneud y gymuned yn le diogelach, hyd yn oed os nad ydych eisiau ymuno yn llawn amser. Mae ein swyddogion i gyd yn dod o bob math o gefndiroedd gwahanol gyda chymaint o wybodaeth o feysydd eraill sy’n cyfoethogi’r teulu plismona yn eu ffyrdd eu hunain."
"Mi wnes i wasanaethu gyda Heddlu Gogledd Cymru fel swyddog o 1997 tan 2018, ar ôl bod yn y lluoedd arfog. Ro’n i’n gweithio gyda’r cŵn am nifer o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ro’n i’n gweithio gyda Swyddogion Gwirfoddol yn ystod rhai shifftiau. Rhoddodd y shifftiau hyn y cyfle i mi weld beth yw gwaith swyddog gwirfoddol. Dyma sut y dechreuodd fy niddordeb mewn ymuno â Swyddogion Gwirfoddol ar ôl i mi ymddeol fel swyddog arferol. Dw i’n meddwl bod fy nghefndir plismona a hyfforddi yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad gwerth chweil i Swyddogion Gwirfoddol. Mae hefyd wedi bod yn ffordd o barhau yn y ‘teulu’ plismona.
Rwyf wedi gweld datblygiad positif ymysg Swyddogion Gwirfoddol dros y blynyddoedd. Mae Swyddogion Gwirfoddol yn parhau i ddangos eu bod yn swyddogion cymwys, sy’n uchel eu parch ac yn cael eu derbyn fel rhan o dîm plismona ehangach Heddlu Gogledd Cymru.
Yn fy rôl gyfredol rwyf yn gyfrifol am bob Swyddog Gwirfoddol sy’n cefnogi siroedd Gwynedd a Môn. Y peth dw i’n mwynhau fwyaf am fy rôl yw cyfrannu at ddatblygiad aelodau newydd gan edrych arnynt yn magu hyder a chymhwysedd ac mewn nifer o achosion yn dod yn swyddogion llawn amser gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Rwy’n argymell yn gryf i unrhyw un ymuno â’r Swyddogion Gwirfoddol."
"Ro’n i am ymuno â’r Swyddogion Gwirfoddol i helpu eraill a rhoi yn ôl i’r gymuned.
Yr hyn dw i’n mwynhau fwyaf yn fy rôl bresennol yw gallu helpu’r Swyddogion Gwirfoddol newydd er mwyn iddynt fagu hyder. Fy uchelgais ar gyfer y dyfodol yw i barhau i wneud yr hyn dw i’n gwneud ac i groesawu mwy o swyddogion gwirfoddol i fy nhîm ac i’w helpu nhw i ddatblygu. Mae’r arweiniad, gwybodaeth a phrofiad rwyf wedi ei gael yn fy rôl fel Rhingyll Gwirfoddol wedi fy helpu i ddringo’r ysgol yn fy swydd amser llawn.
Hoffwn argymell i bawb ymuno â’r Swyddogion Gwirfoddol os ydynt eisiau symud ymlaen i fod yn swyddog amser llawn neu os ydynt am aros yn swyddog gwirfoddol gan fod pob diwrnod yn wahanol ac mae’n gyfle i feithrin sgiliau defnyddiol ar gyfer swyddi eraill."
Mae Kristian yn gweithio i’r RNLI fel Rheolwr Cefnogi Arfordirol. Yn ei amser sbâr, mae’n Swyddog Gwirfoddol gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae Kristian yn defnyddio pum diwrnod cyflogedig y flwyddyn sy’n cael ei ganiatáu gan yr RNLI i wirfoddoli. Mae Kristian yn briod gyda thri o blant ac mae’n mwynhau mynd â’r ci am dro ar y traeth neu yn y bryniau a phan mae amser yn caniatáu, mae’n hoffi saethu colomennod clai hefyd.
Kristian, pam wnaethoch chi ymuno â’r Swyddogion Gwirfoddol?
Mi wnes i ymuno â’r Swyddogion GwirfoddoI gan i mi fod yn filwr wrth gefn gyda’r fyddin am 14 mlynedd a phan wnaeth yr uned gau, do’n i ddim yn gwybod beth i wneud gan fy mod wedi gwneud pethau ychwanegol erioed. Ro’n i’n chwlio am rywbeth a oedd yn hyblyg, rhywbeth i wneud o gwmpas bywyd teuluol a fy ngwaith cyflogedig a dyna pham wnes i ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol. Mae’n rhaid ymrwymo i wneud lleiafswm o 16 awr o waith yr wythnos ac mae hyn yn hawdd i wneud. Ro’n i hefyd eisiau dysgu sgiliau newydd yn ogystal â helpu eraill gyda’r sgiliau trosglwyddadwy dw i wedi datblygu yn sgil fy rôl blaenorol yn y Fyddin ac yn sgil fy ngwaith sifilaidd.
Be dach chi’n mwynhau fwyaf am fod yn Arolygydd Gwirfoddol?
Dw i’n mwynhau helpu Swyddogion Gwirfoddol drwy nodi adleoliadau a digwyddiadau gallant fynd iddynt yn ogystal â’r cynnydd yn eu cynllun datblygu personol. Dw i hefyd yn mwynhau cydlynu rhwng swyddogion heddlu cyffredin a’r Swyddogion Gwirfoddol. Dw i’n helpu canolbwyntio’r gefnogaeth lle mae ei angen i helpu’r swyddogion arferol lle bo angen yn y ffordd orau.
Pa sgiliau dach chi wedi dysgu wrth i chi wirfoddoli fel Swyddog a sut mae hyn wedi eich helpu yn eich swydd gyflogedig?
Cymorth cyntaf, datrys anghydfod ac ysgrifennu datganiadau yw’r rhai o’r sgiliau dw i wedi dysgu. Y prif sgiliau dw i wedi dysgu ac yn eu defnyddio yn fy rôl gyflogedig yw’r ffordd dw i’n blaenoriaethu gwybodaeth i fy helpu i wneud penderfyniadau gwell a’r ffordd dw i’n delio â gwirfoddolwyr. Drwy weithio i sefydliad sy’n ddibynnol ar wirfoddolwyr i gyflawni eu nod, dw i wedi ail feddwl y ffordd dw i’n sgwrsio gyda gwirfoddolwyr a sut dw i’n delio gyda cheisiadau iddynt gyflawni eu dyletswyddau. Mae gen i ddealltwriaeth well nawr fy mod yn gwirfoddoli mewn sefydliad ble dw i’n gweithio gyda gweithwyr cyflogedig.
Sut dach chi’n cadw cydbwysedd rhwng eich gwaith, eich bywyd cymdeithasol a’ch teulu gydag eich cyfrifoldebau fel Arolygydd Gwirfoddol?
Dw i’n ceisio lleihau’r effaith ar fy mywyd personol drwy blismona yn ystod fy nosweithiau rhydd. Serch hynny, nid yw nosweithiau bob amser yn bosib, a dyna pryd dw i’n gwneud y gorau o fy nyddiau Cyflogwr Cefnogol Plismona. Mae cael y dewis i blismona yn ystod gwahanol adegau o’r dydd yn golygu fy mod yn cael gweld ystod eang o ddyletswyddau plismona.
Mae Danny yn gweithio i Admiral fel Pensaer Datrysiadau Diogelwch. Mae’n seiliedig yng Ngogledd Cymru ond yn aml mae i’w weld ym Mhencadlys Admiral yng Nghaerdydd! Mae Danny yn defnyddio’r pum diwrnod y mae Admiral yn eu cynnig i gefnogi ei swydd wirfoddol fel Rhingyll Gwirfoddol. Mae cred cwmni Admiral bod ‘Pobl sy’n hoffi ei gwaith yn ei wneud yn well’, yn canu cloch gyda Danny, fel mae’r ethos o gefnogi cymunedau lleol.
Mae Danny wrth ei fodd yn edrych ar raglenni am yr heddlu ac ymunodd â Heddlu Gogledd Cymru fel Swyddog Gwirfoddol ym mis Tachwedd 2021 ac ers hynny mae wedi gweithio dros 1,530 o oriau gwirfoddol.
Gan ei fod am helpu a diogelu cymunedau lleol, roedd Danny am wneud rhywbeth i wneud gwir wahaniaeth. Mae dyletswyddau Danny yn cynnwys ymateb, plismona’r ffyrdd, plismona’r gymdogaeth a phlismona digwyddiadau. Yn Awst 2023, llwyddodd Danny gael statws Rhingyll Gwirfoddol Dros Dro ac nawr mae’n rhoi peth o’i amser yn helpu recriwtiaid newydd, yn ogystal â chyfarfodydd rheoli a gweinyddu!
Mae rôl plismona Danny yn un gwerth chweil. Gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol Heddlu Gogledd Cymru, mae Danny yn awyddus i gefnogi rhai sy’n dioddef trosedd ac i fod yn amlwg yn ein cymunedau lleol. Drwy ddefnyddio ei wybodaeth o’r gyfraith a’r pwerau sydd ganddo fel swyddog heddlu mae Danny yn cynnig cefnogaeth i’r galw cynyddol ar swyddogion cyflogedig a staff. Yr unig wahaniaeth sydd – mae Danny yn cyflawni ei rôl yn ei amser ei hun.
Mae Admiral yn falch o gefnogi Danny, gan atgyfnerthu eu neges yn cefnogi cymunedau lleol, eu staff ac am wirfoddoli. Mae Heddlu Gogledd Cymru wrth eu bodd i fod mewn partneriaeth gydag Admiral ac yn edrych ymlaen at gryfhau eu perthynas gyda nhw. Yn allweddol i’r balchder hwnnw mae Danny, sy’n ymroddgar ac yn frwdfrydig ac sydd wedi meithrin sgiliau unigryw yn ei rôl gyflogedig ac yn ei rôl wirfoddol, gyda llawer ohonynt yn sgiliau trosglwyddadwy.