Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Disgwylir i Swyddogion Gwirfoddol gyflawni nifer o dasgau gwahanol.
Mi fyddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â heddweision arferol a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu wrth iddyn nhw gyflawni’u dyletswyddau, gan gynnwys mynd allan ar batrôl, ymateb i alwadau 999, mynychu damweiniau ar y ffyrdd, a gwneud ymholiadau ymchwiliol. Ni fydd unrhyw ddwy shifft yr un fath i Swyddog Gwirfoddol.
Mi fyddwch chi ar grwydr hefyd, yn cwrdd â’r cyhoedd ac yn gwneud eich cymuned yn lle mwy diogel ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Mae Swyddogion Gwirfoddol yn helpu i blismona gemau pêl-droed a digwyddiadau lleol eraill, gan gynnwys:
Mae Swyddogion Gwirfoddol hefyd yn arwain eu sesiynau a’u mentrau eu hunain ar ddiogelwch ar y ffyrdd a gostwng lefelau troseddu. Bob dydd maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd pobl yng Ngogledd Cymru.
Gofynnwn i’n Swyddogion Gwirfoddol i ymrwymo i roi 16 awr bob mis ar gyfartaledd i’r rôl, ac rydym yn hyblyg yn nhermau sut y byddwch yn cyflawni hyn. Fodd bynnag, mae rhai’n dewis gweithio mwy na hynny – gan wneud shifft safonol o ddeg awr yn aml gyda’r heddweision maent wedi’u paru â nhw.
Gall Swyddogion Gwirfoddol weithio shifftiau amrywiol i gyd-fynd â’u hymrwymiadau eraill. Am fod plismona’n waith 24/7, mi fydd yna bob amser shifft fydd yn eich siwtio chi.
Rydym yn dilyn rhaglen genedlaethol, sy’n cynnwys sesiynau dyddiol, gyda’r nos ac ar y penwythnosau. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant yn ystod eich oriau gwaith a goruchwyliaeth, a gallwch ofyn am hyfforddiant ychwanegol sy’n benodol i feysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Mae disgwyl i Swyddogion Gwirfoddol ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau yn gyson, felly bydd angen i chi fynychu cyrsiau mewn meysydd fel:
Mae’n bosibl lawrlwytho’r rhaglenni hyfforddiant ar gyfer y derbyniadau cyfredol a’r rhai i ddod isod.
Mae nifer fawr o bobl yn rhoi blynyddoedd o’u bywydau i weithio fel Swyddog Gwirfoddol. Fodd bynnag, os ydych chi’n awyddus i ddringo’r rhengoedd, mae yna strwythur i rôl Swyddog Gwirfoddol sy’n adlewyrchu un yr Heddlu rheolaidd, felly bydd cyfleoedd ichi gael eich dyrchafu i fod yn Rhingyll, yn Arolygydd, neu hyd yn oed yn Brif Arolygydd. Os oes gennych chi brofiad o reoli ac arwain, gallwn gynnig Mynediad Uniongyrchol ar lefel Rhingyll i ymgeiswyr addas.
Gallech hefyd ystyried symud ymlaen i rôl arbenigol. Ar hyn o bryd mae gennym Swyddogion Gwirfoddol yn gweithio yn ein Huned Troseddau Gwledig, ein Huned Diogelwch ar y Ffyrdd a’n timau Plismona Gemau Pêl-droed.
Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a ddaw yn sgil bod yn Swyddog Gwirfoddol yn sail ardderchog ar gyfer gwneud cais i fod yn heddwas rheolaidd. Mae nifer o’n Swyddogion Gwirfoddol wedi defnyddio’u profiad i fynd ymlaen i fod yn heddweision cyflogedig.