
Swyddog gwirfoddol
Mae Swyddogion Gwirfoddol yn bobl arbennig iawn
Maent yn bobl o wahanol gefndiroedd sy’n dewis treulio’u hamser rhydd yn ein helpu ni i helpu eraill. Maent yn ein helpu i wella’r cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt, ac yn helpu i wireddu’n gweledigaeth o Ogledd Cymru mwy diogel.
Mi allant fod gartref yn magu teulu, mewn gwaith llawn amser, rhwng swyddi, yn astudio, neu wedi ymddeol – ond mae pob un ohonynt yn rhoi eu hamser rhydd gwerthfawr am ddim er lles y gymuned leol.
Pam dewis bod yn Swyddog Gwirfoddol?
I lawer o Swyddogion Gwirfoddol, mae’r boddhad o helpu’r gymuned yn ddigon o wobr ynddo’i hun. Y teimlad hwnnw o gyrraedd adre a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun heddiw. Ac nid dyna’r unig fudd oherwydd mi fyddwch chi …
- Yn datblygu sgiliau newydd y gallwch eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd
- Yn magu hyder
- Yn cadw’n iach ac yn heini
- Y gweithio fel rhan o dîm clos ac yn gwneud ffrindiau newydd
- Yn cael cyfle unigryw i ddysgu mwy am blismona – os ydych chi am fod yn heddwas, mae bod yn Swyddog Gwirfoddol yn gam cyntaf gwych.
- Ond nid perthynas unffordd yn unig yw hon - mi fyddwn ninnau hefyd yn elwa'r un faint o’ch cael chi gyda ni! Ac nid yn unig am eich bod yn ein helpu i gael ein gweld yn y gymuned ar adeg pan mae’r cwtogi ar y gyllideb yn effeithio ar yr heddlu ymhob ardal.
Mae bob un o’n Swyddogion Gwirfoddol – o’r ieuengaf i’r hynaf – yn dod â set unigryw o sgiliau a phrofiadau bywyd i’w timau, gan roi persbectif newydd i’r heddweision ar sefyllfaoedd maent yn eu hwynebu bob dydd.
Os ydych yn meddwl mai dyma'r yrfa i chi, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i gysylltu â ni.
Gallech hefyd ganfod os ydych yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig drwy fynd i'r dudalen Gweithredu Positif.
Edrychwch ar y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Lawrlwytho
Strategaeth Genedlaethol Yr Heddlu Gwirfoddol [PDF]
ESP National Strategy [PDF]