Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen y math iawn o bobl arnom ni i gadw Gogledd Cymru’n ddiogel, felly mae angen i’n SCCH ni feddu ar y chwe rhinwedd arweinyddiaeth allweddol, sef:
Diben popeth a wnawn ni yw gwneud Gogledd Cymru’n fwy diogel i aelodau’r cyhoedd. Os nad ydych chi’n fodlon canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, ac ystyried y ffordd orau o wneud hynny, yna nid yw’r gwaith hwn ar eich cyfer chi.
“Newid yw’r unig beth cyson mewn bywyd.” Nid perl o ddoethineb ar hap gan yr hen Roegiaid, ond un o ffeithiau bywyd yn Heddlu Gogledd Cymru. Mae cyfreithiau’n newid. Mae ein sefydliad yn newid. Fel gweithwyr, rhaid inni ymateb yn bositif ac yn hyblyg, gan feddwl am ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon a chost-effeithiol.
Fel SCCH byddwch yn gwneud penderfyniadau bob dydd. Boed yn lle i ddechrau chwilio am blentyn ar goll, neu sut i ddatrys ffrae danbaid rhwng cymdogion, bydd pob penderfyniad a wnewch yn effeithio ar fywydau pobl. Felly mae’n hanfodol y gallwch fod yn wrthrychol, proffesiynol a hyderus.
Mae popeth amdanom ni’n bwysig. Beth wnawn ni, beth ddywedwn ni, sut olwg sydd arnom ni. Mi fydd angen ichi weithredu mewn ffordd onest a chywir ac yn unol â gwerthoedd a Chod Moesegol yr Heddlu. Os nad oes gennych chi etheg gwaith cryf neu falchder yn eich gwaith, yna mae’n bosib nad yw’r rôl hon ar eich cyfer chi.
Rhaid inni fod yn drefnus er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Mi fydd angen sgiliau cyfathrebu da arnoch, a’r gallu i weithio’n systematig er mwyn cynllunio a threfnu’ch gwaith yn effeithiol.
Fel SCCH, mi fyddwch chi’n gweithio gyda llawer o bobl - oddi mewn ac oddi allan i’r Heddlu. Mi fyddwch chi’n rhan o rota benodol, ond hefyd yn rhan o dîm daearyddol mwy, sydd yn ei dro’n rhan o’n hadran Gwasanaethau Plismona Lleol. Mi fyddwch chi’n rhyngweithio ag adrannau megis gwaith fforensig, a meysydd arbenigol eraill, yn ogystal â’n cydweithwyr o fewn y gwasanaethau tân ac iechyd. Ac wrth gwrs, mi fyddwch chi ar grwydr yn cwrdd â’r cyhoedd yn ddyddiol. Mae’n hanfodol felly eich bod yn gallu cydweithredu, a thrin pobl gyda pharch ac urddas, beth bynnag yw eu hamgylchiadau.
Mae’n wir y bydd llawer o’ch gwaith yn golygu ymateb i sefyllfaoedd – mi fyddwch chi’n patrolio’r strydoedd, yn atal pobl rhag cwffio, yn ymchwilio i droseddau, a hyd yn oed yn erlid pobl o dro i dro. Ond nid yw’r mwyafrif o bobl yn sylweddoli faint o amser a dreulir yn ceisio atal problemau. Mae plismona cymunedol yn canolbwyntio ar helpu pobl i gadw allan o’r system cyfiawnder troseddol, yn hytrach na’u gosod yn y system.
Ydych chi’n un da am ddatrys problemau? Ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Os ydych chi’n hoffi amrywiaeth a her, beth am wneud cais i ymuno â Thîm Heddlu Gogledd Cymru?