Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Crëwch broffil a chofrestrwch eich manylion ar ein system e-recriwtio.
Os ydych hefyd wedi gwneud cais i heddlu arall yn defnyddio’r system hon, bydd rhaid i chi greu proffil ar wahân ar gyfer eich cais i Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn oherwydd bod heddluoedd eraill yn ymdrin â’r broses geisiadau yn wahanol.
Er mwyn ymgeisio i ddod yn SCCH, rhaid i chi gael gradd A i C TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gymwysterau lefel 2 cyfatebol neu’n uwch yn y ddau bwnc).
Os nad oes gennych y cymhwyster perthnasol, byddwch yn gallu cymryd prawf rhesymu a rhifedd llafar cyn symud ymlaen i'r cam nesaf.
Mae’n rhaid bod gennych y cymhwyster pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Ni allwn dderbyn ‘graddau disgwyliedig’ gan y bydd rhaid i chi gyflwyno copïau o’ch tystysgrifau fel rhan o’ch cais.
Mae gofynion cymhwysol yr heddlu yn rhai manwl iawn. Ar ôl cofrestru eich manylion yn y system e-recriwtio ceir rhai cwestiynau i benderfynu os ydych yn gymwys i wneud cais. Byddant yn cynnwys y pynciau canlynol.
Rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o’r Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinesydd o’r Gymanwlad neu wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y DU.
Rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am gyfnod o dair blynedd cyn cyflwyno eich cais. Ni allwch fod yn absennol o’r DU am fwy na chwe mis yn ystod y cyfnod hwn.
Os ydych wedi bod yn gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog Prydain neu Lywodraeth y DU, fe’ch ystyrir yn breswyliwr yn y DU.
Nid ydym yn gallu eich ystyried os oes gennych ddyfarniadau Llys Sirol heb eu talu, neu Gytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) neu wedi eich cofrestru’n fethdalwr o fewn y tair blynedd diwethaf.
Mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma
Mae'r wybodaeth fetio hon yn darparu rhagor o fanylion.
Os ydych yn aelod o’r BNP neu sefydliad tebyg – neu wedi bod yn aelod – nid ydych yn gymwys i wneud cais.
Caniateir tatŵs yn Heddlu Gogledd Cymru, ond rhaid iddynt beidio â bod yn sarhaus na thanseilio urddas ac awdurdod eich rôl.
Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi anfon llun atom a disgrifiad o'ch tatŵs.
Rhai enghreifftiau o datws na fyddem yn eu derbyn yw:
Rydym angen bod yn sicr ein bod ni yn recriwtio pobl o’r radd flaenaf, felly mae ein proses ymgeisio yn cynnwys sawl cam heriol.
Hyd yn oed pe byddech yn llwyddo i gyflawni nhw i gyd nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig swydd gennym. Mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng gofynion gweithredol yr Heddlu a nifer y swyddi gwag.
Os ydych yn ateb y meini prawf ac am wneud cais, darllenwch drwy’r wybodaeth isod am fwy o fanylion am y camau y dylech eu cymryd.
Crëwch broffil a chofrestrwch eich manylion ar ein system e-recriwtio.
Os ydych hefyd wedi gwneud cais i heddlu arall yn defnyddio’r system hon, bydd rhaid i chi greu proffil ar wahân ar gyfer eich cais i Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn oherwydd bod heddluoedd eraill yn ymdrin â’r broses geisiadau yn wahanol.
Mae’r rhan gyntaf o’r broses yn gofyn cwestiynau er mwyn penderfynu os ydych yn gymwys i wneud cais.
Os ydych yn gymwys byddwch yn cael eich tywys drwy’r broses ymgeisio. Yn gyntaf bydd rhai profion ar-lein. Bydd y rhain yn cynnwys Holiadur Dull Ymddygiad a Phrawf Barnu Sefyllfa.
Gallwch gael mwy o wybodaeth yn y dogfennau arweiniad hyn:
Os nad oes gennych y TGAU angenrheidiol mewn Saesneg a Mathemateg, a’ch bod yn teimlo fod eich profiad yn cyfateb i’r lefel hon yna byddwch yn gallu gwneud prawf seicometreg (Rhesymu Llafar a Chyfrifyddu). Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd.
Nid oes rhaid i chi gwblhau’r ffurflen i gyd mewn un sesiwn, gallwch symud ymlaen fel y mynnwch.
Yn dibynnu ar yr atebion yr ydych wedi eu cynnig, efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu eich cais.
Os oes unrhyw broblemau i’w trafod gyda chi, byddwn yn cysylltu â chi.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Pwrpas y cyfweliad yw i ni ddeall mwy amdanoch chi fel unigolyn a’ch gwerthoedd a’ch daliadau.
Bydd yn para tua 40 munud ac wedi’i seilio ar:
Rydym yn hyblyg o ran yr iaith a ddefnyddir yn y cyfweliad. Byddech angen gadael i ni wybod os ydych am siarad Cymraeg neu Saesneg, neu gyfuniad o’r ddwy os yw hynny yn haws i chi. Nid prawf o’ch sgiliau Cymraeg yw’r cyfweliad.
Gan mai dim ond nifer penodol o swyddi sydd ar gael gennym, efallai y cewch gynnig cyfle yn y gronfa wrth gefn lle byddwch yn symud ymlaen drwy'r gwiriadau cyn cyflogi, fodd bynnag, byddech yn cael gwybod bod potensial i beidio â bod unrhyw gyfleoedd ar gael yn y niferoedd sy'n derbyn yr ymgyrch hon.
Yn dilyn eich cyfweliad byddwn yn eich cynghori ac yn dechrau'r gwiriadau cyn cyflogi.
Bydd eich manylion yn cael eu gyrru i’r uned Fetio i gynnal gwiriadau cefndir. Bydd ein Tîm Recriwtio yn cael geirda gan eich cyn gyflogwyr a/neu sefydliadau academaidd.
Dim ond gyda’ch caniatâd chi y byddem yn cysylltu gydag eich cyflogwr presennol - bydd yn un o’r camau olaf yn y broses.
Bydd gofyn i chi rhoi sampl DNA ac olion bysedd i’w cadw yng Nghronfa Ddata er Dileu’r Heddlu.
Nid yw plismona erioed wedi bod yn waith hawdd. Fel swyddog heddlu bydd rhaid i chi ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd fydd yn galw am nerth a ffitrwydd corfforol.
Byddwch angen nerth, ystwythder a stamina i ddelio’n effeithiol â sefyllfaoedd ynghyd ag amddiffyn eich hun ac eraill. Bydd rhaid i chi hefyd fod yn ffit er mwyn gallu trin offer yr heddlu’n ddiogel a gweithio sifftiau.
Er mwyn sicrhau eich bod yn ddigon ffit, bydd rhaid i chi gwblhau prawf ffitrwydd.
Dysgwch mwy am beth yw’r prawf (PDF).
Rhaid llenwi'r ffurflen feddygol cyn gynted â phosib.
Mae'n bwysig i chi ddatgelu rhagor o fanylion yn un â’r cais, efallai y bydd yna oedi o ran eich cais os na wnewch hynny. Fe'ch cynghorir hefyd i ddarparu unrhyw manylion meddygol, gall hyn gynnwys, er enghraifft, llythyrau rhyddhau, llythyrau meddygol, manylion apwyntiadau, adroddiadau ymgynghorwyr ac ati. Y mwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi y cyflymaf y gallwn brosesu'r prawf meddygol.
Efallai y bydd yn ofynnol i ni gysylltu â'ch meddyg teulu i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud hynny.
Safonau Golwg (Gov.uk)
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn annog ein staff a’n swyddogion i gyd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Felly gofynnwn i recriwtiaid newydd i ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg.
Level 2 yn ddangos yma:
0 - Dim gwybodaeth o Gymraeg llafar
1 - Golyga hyn eich bod yn gallu deall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau pobl ac ychydig o eirfa blismona yn ogystal â'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml, pob dydd yn Gymraeg.
2 - Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI y gallwch roi a derbyn manylion personol a gwybodaeth sylfaenol, gwneud ceisiadau syml a dweud rhai ymadroddion amdanoch eich hun yn Gymraeg.
3 - Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI a HGC L2 y gallwch sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaeth ac er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl. Gallwch ddeall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol, disgrifio pobl a lleoliadau a defnyddio ymadroddion syml yn Gymraeg.
4 - Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI, HGC L2 a HGC L3 gallwch ddeall a delio â phobl mewn Cymraeg llafar yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg er mwyn trin sefyllfaoedd cymhleth neu derminoleg.
5 - Golyga hyn eich bod yn gallu sgwrsio yn Gymraeg ym mhob sefyllfa.
Bydd yr adolygiad yn digwydd mewn modd anffurfiol gyda siaradwr Cymraeg ystyrlon, ac rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu cyflawni’r lefel gofynnol ar gyfer rôl Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.
Mae gennym hefyd adnoddau dysgu a all eich helpu gyda’ch dysgu. Nodwch mai adolygiad llafar yw hwn ac nid oes prawf ysgrifenedig.
Bydd siaradwyr Cymraeg rhugl yn cael eu dilysu drwy sgwrs ffôn gydag un o'r tîm.
Byddwch yn cael cynnig y swydd unwaith y bydd eich holl wiriadau cyn cyflogi wedi'u cwblhau a'ch geirda cyfredol wedi'i ddychwelyd.