Pa hyfforddiant a gaf?
Mae SCCH yn derbyn naw wythnos hyfforddiant cychwynnol. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau chwarae rôl ac ymarferol i sicrhau’n iawn eich bod yn deall popeth yn llawn. Ar y diwedd mi fyddwch yn meddu ar y sgiliau hanfodol a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen. Ac ar ben hynny - gall rhannu’r profiad hwn gyda’ch cyd-ddysgwyr arwain at sawl cyfeillgarwch cadarn a fydd yn para trwy gydol eich gyrfa yn y dyfodol.
Byddwch hefyd yn cael un ai dri neu bum diwrnod o hyfforddiant Cymraeg, gan ddibynnu ar eich lefel iaith bresennol.
Am y chwe wythnos nesaf cewch eich mentora gan SCCH sydd wedi’i hyfforddi fel tiwtor. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn gallu rhoi eich sgiliau newydd ar waith. Bydd hyn o dan oruchwyliaeth eich cydweithiwr profiadol.
Ar ddiwedd y cyfnod chwe wythnos bydd eich tiwtor yn eich asesu. Os ydych yn barod, cewch eich aseinio i’ch rota newydd. Gallwch yn awr ddechrau mynd allan ar batrôl annibynnol!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos, dros batrwm sifft 24 awr ar y cyd a’ch cydweithwyr sy’n swyddogion heddlu. Fel SCCH gallech fod yn cynnal amrywiol ddyletswyddau, gan gynnwys:
- Patrolio eich ardal ac ymateb i ddigwyddiadau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddwyn o siopau
- Dilyn ymholiadau, fel gwneud ymholiadau o dŷ i dŷ yn dilyn trosedd
- Ymweld â dioddefwyr trosedd i’w diweddaru a thawelu eu meddwl
- Cynorthwyo swyddogion heddlu drwy warchod safleoedd trosedd
- Chwilio am bobl ar goll
- Mynd ati i ymgysylltu â’r gymuned leol, gan gynnwys ymweliadau ysgol a phlismona digwyddiadau lleol
- Darparu cymorth atal troseddau
- Cynnal mentrau lleol, fel marcio beiciau, diogelwch myfyrwyr neu Gynllun Cadetiaid HGC
- Mynychu cyfarfodydd cymdogaethau fel cynlluniau gwarchod tafarndai a gwarchod siopau i ddarparu mewnbwn heddlu
- Ymgysylltu â chynghorwyr lleol o ran materion sy’n effeithio eu cymuned leol
Pa fanteision a gaf i?
Fel gweithio HGC mae gennych hawl i gael yr un manteision â staff yr heddlu, gan gynnwys:
- O leiaf 25 diwrnod o wyliau’n flynyddol (pro rata i swyddi rhan-amser)
- Gwyliau’r Banc wedi’i dalu
- Cyfleon gwaith hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaeth salwch hael
- Ffreutur noddedig
- Defnydd o gampfa yn y man-gwaith a dosbarthiadau ffitrwydd
- Opsiwn i fod yn aelod o Unsain, undeb y gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r cynllun Blue Light