Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) yn staff heddlu ag iwnifform. Maent yn darparu presenoldeb iwnifform gweladwy a hygyrch yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i’r cyhoedd.
Nid ydynt yn cymryd lle Cwnstabliaid Arbennig. Mae rôl SCCH yn unigryw. Mae wedi’i gynllunio’n arbennig i drin ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion lleol sy’n effeithio ansawdd bywyd. Mae eu ffocws ar atal troseddau, yn hytrach nag ymchwilio a chanfod.
Nid ydynt yn disodli swyddogion heddlu. Maent yn eu cynorthwyo. Mae SCCH yn gwneud llawer o dasgau nad oes angen profiad na grymoedd a geir gan swyddogion heddlu. Mae hyn yn golygu fod swyddogion yn gallu ymroi eu hamser i ddyletswyddau mwy priodol.
Nid oes gan SCCH yr un grymoedd â swyddogion heddlu a Chwnstabliaid Arbennig. Er enghraifft, nid oes gan SCCH yr un grymoedd arestio. Ond gallent roi rhybudd cosb benodedig neu wasgaru grwpiau. Mae’r grymoedd a roddir i SCCH yn amrywio rhwng heddluoedd. Felly efallai gwelwch SCCH ar ddogfennau teledu yn gwneud pethau na alla SCCH mewn meysydd eraill ei wneud.
Un peth y gwnaiff SCCH a swyddogion heddlu ei ddweud wrthych yw nad yw dwy sifft yr un fath. Os ydych yn mwynhau amrywiaeth, cwrdd â phobl ac eisiau gwneud eich cymuned yn le mwy diogel a braf i fod, hon yw’r swydd i chi!
Mae hon yn rôl gyflogedig – y cyflog cychwynnol yw £25,782.