Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym bellach yn cynnig cyfleoedd ail-ymuno cyffrous i unigolion sydd wedi ymddiswyddo neu ymddeol o heddlu Swyddfa Gartref i wneud cais fel Swyddog Heddlu Ail-ymuno.
Bydd pob ymgeisydd Ail-ymuno yn cael ei drin fel ymgeisydd newydd a bydd ganddo raglen hyfforddi wedi'i theilwra. Gall ymgeiswyr fod yn gymwys i ail-ymuno yn eu rheng flaenorol os oes gan yr heddlu swyddi gwag yn y rheng honno.
Fel swyddog heddlu ail-ymuno, eich swydd fydd lleihau trosedd ac ofn troseddau. Byddwch yn meithrin hyder ymhlith pobl leol drwy hyrwyddo bod yr heddlu'n deall ac yn barod i ymdrin â materion sydd bwysicaf iddynt.
Ein Swyddogion yw wyneb a llais Heddlu Gogledd Cymru. Maen nhw ar lawr gwlad, yn cydweithio mewn partneriaeth â'r cyhoedd a sefydliadau, yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol. Maen nhw'n dod o gefndiroedd gwahanol ond mae gan bob un yr un nod - cadw cymunedau'n ddiogel.
Ynghyd â'r ffaith y byddwch yn ymuno â sefydliad deinamig, blaengar, cewch gyfle i weithio mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Gyda chymysgedd o gymunedau gwledig a threfol, byddwch yn cael profiad eang o heriau gwahanol a chyffrous yn ddyddiol.
Gogledd Cymru yw un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yn y Deyrnas Unedig, yn gwasanaethu poblogaeth o 698,400 o bobl ac yn cwmpasu ardal o 6,300 cilomedr sgwâr.
Mae prisiau tai yn y trefi a'r pentrefi harddaf yn fforddiadwy ar y cyfan, ac mae pris eiddo yng Nghymru ar gyfartaledd tua £215,000.
Mae gan yr ardal gyfleoedd dysgu gydol oes gadarn gan gynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Menai a Choleg Llandrillo. Yn ogystal ag addysg uwch a dysgu pellach, mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd rhagorol yn y rhanbarth.
Er mwyn gwneud cais fel Swyddog Heddlu Ail-ymuno, mae'n rhaid i chi fod:
Gellir dod o hyd i wybodaeth benodol am swyddi gwag ar ein Porth Swyddi Gwag.
Ar hyn o bryd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i recriwtio'r canlynol:
Mae angen i ni sicrhau ein bod yn recriwtio pobl o'r ansawdd uchaf, felly mae ein proses recriwtio yn cynnwys sawl cam.
Hyd yn oed os ydych yn eu cyflawni i gyd, byddwch yn ymwybodol nad ydyw’n gwarantu swydd gyda ni’n awtomatig. Rhaid i ni bwyso a mesur anghenion gweithredol yr Heddlu gyda’r nifer o swyddi gwag.
Mae'n ofynnol i unigolion lenwi ffurflen gais ar-lein sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol, gwiriadau cymhwysedd a chwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd.
Dyma'r rhan gyntaf o'r broses ddethol.
Wedi i chi gyflwyno eich ffurflen gais, byddwn yn adolygu'r wybodaeth a'ch tystiolaeth FfGG.
Os ydych yn llwyddo yn y Gwiriad Addasrwydd Cychwynnol ac mae'r heddlu angen recriwtio eich sgiliau arbennig chi, ynghyd â'ch gwybodaeth a phrofiad, byddwch yn mynd ymlaen i gam Cyfweliad y broses.
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfweliad cychwynnol gallu a gwerthoedd er mwyn eich asesu yn erbyn y Fframwaith Gallu a Gwerthoedd, ar lefel priodol i'ch rheng.
Bydd y cyfweliad yn parhau hyd at 45 munud a bydd yn seiliedig ar y Fframwaith Gallu a Gwerthoedd [PDF] ac eich ymchwil i Heddlu Gogledd Cymru.
Rydym yn hyblyg o ran yr iaith a ddefnyddir yn y cyfweliad. Bydd angen i chi roi gwybod i ni os byddwch eisiau siarad yn Gymraeg neu Saesneg neu gyfuniad o'r ddau os yw hynny'n haws i chi. Nid yw'r cyfweliad yn brawf o'ch sgiliau Cymraeg.
Os ydych yn llwyddo yn y broses Gyfweld, byddwch yn symud ymlaen i gam Cynnig Amodol y broses.
Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu'r gwiriadau cyn cyflogaeth a fydd yn cael eu cynnal fel rhan o'r broses recriwtio.
Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn y gwiriadau cyn cyflogi yn cael cynnig ffurfiol ac yn symud ymlaen at ddyddiad derbyn.
Bydd swyddi gwag yr heddlu yn cael eu hamlinellu yn yr hysbyseb. Sylwer, er y bydd dewisiadau, arbenigeddau a hyfforddiant yn cael eu hystyried wrth nodi swyddi, rhaid i ni hefyd ateb y galw gweithredol ac felly ni allwn warantu dewisiadau unigol
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn annog ein staff a'n swyddogion i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd gwaith bob dydd.
Gofynnwn felly i bob swyddog heddlu newydd ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (lefel 2).
Bydd yr adolygiad yn digwydd yn anffurfiol gyda siaradwr Cymraeg hynaws. Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad i'ch cynorthwyo i gyflawni'r lefel angenrheidiol ar gyfer y rôl.
Mae gennym hefyd adnoddau dysgu ar-lein a all eich cynorthwyo chi gyda'ch dysgu. Dalier sylw ei fod yn adolygiad ar lafar - nid oes prawf ysgrifenedig.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, neu wedi mynychu ysgol Gymraeg, ni fydd angen i chi gwblhau'r adolygiad. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn ystod y broses.
Byddwch yn derbyn e-bost gan ein system fetio i gwblhau ffurflenni fetio fel rhan o'ch gwiriadau. Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r wybodaeth ar unwaith er mwyn sicrhau nad oes oedi.
Byddwn yn cysylltu â'ch cyflogwr presennol a'ch Heddlu Blaenorol er mwyn cael geirda cyflogaeth. Ni fyddwn yn cysylltu gyda nhw heb eich caniatâd.
Byddwch yn cael eich gwahodd i mewn ar gyfer eich olion bysedd ac ar gyfer sampl DNA. Bydd gofyn i chi ddod i Bencadlys yr Heddlu yn ystod y cyfnod cyn cyflogi i ymgymryd â phrawf cyffuriau.
Byddwch yn cael eich gwahodd i gael prawf ffitrwydd i sicrhau eich bod yn ddigon heini i ymdopi â gofynion y swydd.
Dysgwch fwy am yr hyn mae'r prawf yn ei gynnwys (PDF).
Tra byddwch chi ym Mhencadlys yr Heddlu, byddwch yn cwrdd â'n Hyfforddwyr Heddlu i adolygu eich TNA a hefyd i gynnal asesiad o'r Gyfraith.
Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich pecyn hyfforddiant cychwynnol yn addas ac yn cefnogi eich ail-gyflwyniad i blismona.
Byddwch wedi derbyn holiadur hanes meddygol a ffurflen optegydd.
Mae'n rhaid i'ch meddyg teulu a'ch optegydd lenwi'r rhain – mae'n bosib y byddwch yn gorfod talu am hyn a gall gymryd hyd at 4 wythnos iddynt eu dychwelyd atoch chi.
Wedi i'r cam recriwtio gael ei gwblhau ac i'r gwiriadau gael eu clirio, byddwn yn eich prosesu i ddechrau ar y dyddiad derbyn perthnasol.
Bydd eich wythnosau cyntaf yn yr Adran Hyfforddiant er mwyn cwblhau'r Rhaglen Hyfforddi Ail-ymuno penodol ac yna cyfnod ar y PDU (os yw'n berthnasol).
Bydd Asesiad Rheng / rôl Addas yn y Gwaith hefyd yn cael ei gwblhau.