Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bod yn Wirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu o fewn Heddlu Gogledd Cymru yn gyfle rhagorol i ymwneud â gwahanol agweddau o blismona ac yn ffordd o gael profiad o fewn sefydliad cyhoeddus a phroffesiynol. Mae’n cynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd ac i weithio fel rhan o dîm, ymgysylltu a rhyngweithio â phobl o wahanol gymunedau a chefndiroedd wrth wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned leol.
Drwy wirfoddoli gyda ni gallech chwarae rôl hanfodol o ran ein helpu ni i ddarparu a gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i gymunedau ledled Gogledd Cymru.
Mae pob mathau o bobl yn gwirfoddoli, ar draws ystod o oedrannau, pobl o wahanol gefndiroedd sydd â gwahanol sgiliau a phrofiadau bywyd. Os oes gennych chi ychydig o amser sbâr byddwn yn gallu rhoi cyfleoedd i chi helpu eich hunain, dysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau.
Byddwch yn cael cefnogaeth lawn yn eich rôl fel gwirfoddolwr ac yn cael eich darparu â’r hyfforddiant a’r diweddariadau priodol.
Fel a ddisgrifir gan y Swyddfa Gartref, mae gwirfoddolwr yn rhywun sydd “yn rhoi eu hamser ac egni er lles cymdeithas, y gymuned, yr amgylchedd a/neu unigolion, gan wneud hyn drwy ddewis, heb bryderu am enillion ariannol.”
Mae Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu yn rhywun sy’n cyflawni tasgau gwirfoddol, yn unol â chyfarwyddyd y sefydliad, drwy ddewis personol.
Bydd Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu yn cytuno i wneud hyn heb ddisgwyl iawndal na thâl, heblaw am y costau treuliau y cytunir arnynt ymlaen llaw.
Felly, does dim rhwymedigaeth pan fydd unigolyn yn cytuno i wneud rôl wirfoddol a ni roddir contract cyflogaeth. Gall y naill barti neu’r llall ganslo’r trefniant gwirfoddol ar unrhyw bryd.
Mae angen i’r holl wirfoddolwyr arwyddo ffurflenni yn cytuno i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data a’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.
Nid bwriad gwirfoddolwyr na’r gwaith y byddant yn ei wneud yw disodli gweithwyr, sail y cytundeb yw bod gwirfoddolwyr yn cefnogi rolau staff. Mae bod yn wirfoddolwr yn rhoi cyfle unigryw i unigolion ddefnyddio eu sgiliau, profiad a gwybodaeth leol er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau drwy gefnogi’r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Mae cyfleoedd a gweithgareddau yn amrywio o un adran i’r llall yn ddibynnol ar yr anghenion ledled yr Heddlu ac o fewn cymunedau lleol.
Mae rhai o’n rolau wedi eu lleoli o fewn ein timau cymunedol yn gweithio gyda SCCH a Swyddogion Heddlu, yn ymgysylltu â’r cyhoedd neu’n cysylltu â dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae rhai o’n rolau gwirfoddol yn rolau swyddfa sy’n rhoi cefnogaeth i dimau a gweithredoedd plismona.
Nid ydym yn disgwyl bod gennych gymwysterau ffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o dasgau, yr hyn sydd gennym ddiddordeb ynddo yw synnwyr cyffredin, ymroddiad a’r gallu i gyfathrebu â phobl.
Rhaid i chi fod dros 18 oed. O ganlyniad i natur yr Heddlu bydd angen i ni gynnal gwiriadau diogelwch arnoch.
Byddwch yn destun yr un meini prawf â holl aelodau’r Heddlu ac o ganlyniad efallai na fydd eich cais yn cael ei dderbyn os oes gwrthdaro buddiannau rhwng eich bywyd proffesiynol a’ch bywyd personol.
Mae gwirfoddolwyr yn aelodau o’r gymuned sydd, ar ôl iddynt gael eu hyfforddi, yn gwneud gwaith gwerthfawr drwy gyfrannu eu hamser sbâr i wneud amrywiaeth eang o rolau ochr yn ochr â swyddogion a staff yr heddlu.
Mae ein rhaglen gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio eu hamser a’u sgiliau er lles eu cymunedau mewn ffordd ddiddorol a phleserus.
Mae tasgau yr ymgymerir â nhw gan wirfoddolwyr yn rhai fydd yn cefnogi gwaith swyddogion a staff yr heddlu. Nid bwriad y cyfraniad gwerthfawr hwn yw diddymu neu ddisodli’r gwaith a wneir gan staff amser llawn neu ran-amser.
Does dim angen unrhyw gymwysterau academaidd arnoch, fodd bynnag, mae’n hanfodol eich bod yn onest a bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Bydd hefyd angen i chi fod ag agwedd gadarnhaol a chyfeillgar tuag at y cyhoedd, gallu i weithio fel rhan o dîm ynghyd â pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
Bydd hyn yn ddibynnol ar y rôl ond yn gyffredinol rhwng tua dwy a phedair awr yr wythnos (ar gyfartaledd dros gyfnod o 12 mis). Bydd y gwir oriau y byddwch yn eu cyflawni yn cael eu trafod mewn mwy o fanylder rhyngoch chi a’ch prif gyswllt o ddydd i ddydd.
Bydd. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru yswiriant atebolrwydd.
Ni fydd rhaid i chi gael prawf meddygol llawn. Fodd bynnag, fel rhan o’r broses ymgeisio bydd angen i chi lenwi ffurflen hunan ddatganiad.
Dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd angen i chi weld nyrs / ymgynghorydd iechyd galwedigaethol yr heddlu er mwyn cael gwiriad sgrinio iechyd a lles.
Bydd, bydd angen i’r heddlu eich gwirio chi a’ch teulu uniongyrchol. Bydd gennych, ar adegau, fynediad i wybodaeth gyfrinachol ac am y rheswm hwn mae’r gwiriadau hyn yn arferol.
Yn ddibynnol ar eich rôl, efallai y byddwch yn cael dillad penodol a allai gynnwys côt a/neu grys-t ar gyfer y Gaeaf/Haf; fest ddiogelwch; band braich adnabod.
Byddwch hefyd yn cael bathodyn adnabod Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr Heddlu yn berthnasol i Wirfoddolwyr gyda’r Heddlu a bydd yn rhaid cyrraedd Lefel 1 [Cwrteisi ieithyddol ac ynganu] yn unol â fframwaith yr Heddlu. Efallai y bydd gofyn am lefel uwch ar gyfer rolau penodol ac fe nodir hyn ar y proffil rôl. Bydd CD y gellir ei lawrlwytho a dogfen i gyd-fynd â’r CD ar gael. Bydd yr Heddlu yn cynorthwyo gwirfoddolwyr yn ôl yr angen i gyrraedd y safon angenrheidiol.
Mae hyfforddiant yn rhan bwysig o’n rhaglen gwirfoddoli.
Ar ôl cael eich penodi, bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiad cynefino er mwyn cael eich briffio ar rai o’r disgwyliadau sydd gan yr Heddlu o’u staff. Rhoddir cwrs cynefino a hyfforddiant penodol ar gyfer y rôl.
Yn anffodus, ni fydd modd i chi ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gwirfoddoli heb gwblhau’r elfennau canlynol o’r rhaglen hyfforddiant:
Gallai elfennau eraill o’r hyfforddiant sydd ar gael gynnwys gweithdrefnau sylfaenol megis: cyfathrebiadau gan gynnwys defnyddio radio neu ffôn; rheoli / datrys gwrthdaro; cymorth cyntaf (diogelu bywyd) a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio/cael mynediad i’r offer argyfwng a diogelwch perthnasol.
Er mwyn hawlio costau teithio a / neu costau lluniaeth rhaid bod y gwirfoddolwr wedi cofrestru eu horiau ar y Daflen Ddyletswydd a chyflwyno ffurflen hawlio treuliau Gwirfoddolwyr.
Bydd costau teithio i’r man gwirfoddoli ac oddi yno a’r milltiroedd awdurdodedig a wneir yn ystod y cyfnod gwirfoddoli yn cael eu talu ar raddfa o 45c y filltir. Rhaid i wirfoddolwyr hysbysu eu cwmni yswiriant eu bod yn gwirfoddoli a sicrhau bod ganddynt yswiriant busnes priodol.
Bydd costau trafnidiaeth cyhoeddus yn cael eu had-dalu os gellir darparu tocyn. Os defnyddir pas Cludiant Cyhoeddus fe delir hyn ar sail pro rata.
Byddai treuliau pellach ond yn cael eu rhoi pan fyddai Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu wedi mynd i gostau ychwanegol sydd y tu hwnt i’w rôl arferol.
Os bydd Gwirfoddolwr Heddlu yn gwirfoddoli am bum awr neu fwy yn barhaus, a bod hynny wedi’i gynllunio ymlaen llaw, gellir hawlio hyd at £5.00 ar gyfer lluniaeth. Bydd rhaid cael derbynneb er mwyn gallu hawlio’r costau hyn yn ôl.
Sicrhewch fod y ffurflen gais wedi’i llenwi cyn ei dychwelyd. Os nad yw wedi’i llenwi bydd hyn yn arwain at oedi yn y broses, neu’n waeth, efallai y gwrthodir eich cais.
Rydym yn eich cynghori i ddarllen y nodiadau canllaw cais a roddir cyn dechrau cwblhau’r ffurflen gais.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei asesu i weld os ydych yn addas ar gyfer y rôl.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y rôl bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cysylltu â chi i drefnu lleoliad, dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Y nod fydd dod i wybod mwy amdanoch chi fel unigolyn, eich moeseg a’ch gwerthoedd.
Ar ôl y cyfweliad byddwn yn gofyn i chi ddangos bod gennych sgiliau Cymraeg lefel 1 drwy brawf llafar byr yn seiliedig ar yr adnoddau dysgu yn yr adran Iaith Gymraeg ar ein rhyngrwyd.
Bydd gwiriadau fetio cefndir yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd am rôl fel gwirfoddolwr, a byddwn hefyd yn gofyn am dystlythyr gan gyflogwyr presennol a dau dystlythyr personol. Gellir hefyd gwneud gwiriadau academaidd yn ddibynnol ar y rôl y gwnaed cais amdani.
Bydd yn rhaid i bob ymgeiswyr lenwi holiadur meddygol (PDF, Saesneg yn unig). Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad bydd y ffurflenni hyn yn cael eu hanfon i’r Uned Iechyd Galwedigaethol lle byddant yn cael eu harchwilio a’u trin yn gyfrinachol.
Yn dibynnu ar eich holiadur meddygol, efallai y bydd angen i chi fynd i’r uned iechyd galwedigaethol am asesiad meddygol.
Yn amodol ar gwblhad llwyddiannus yr holl gamau uchod, cynigir swydd i chi fel gwirfoddolwr.
Bydd angen i chi wedyn fynychu cwrs cyflwyno yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.
Gallwch bori trwy ac ymgeisio am gyfleoedd cyfredol ar ein porth recriwtio ar-lein.
Ni fydd Heddlu Gogledd Cymru yn ad-dalu unrhyw dreuliau neu gostau teithio sy’n codi fel rhan o fynychu unrhyw ran o’r broses ddethol.