Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki ydy Arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu Gwirfoddol. Yn y blog hwn mae’n trafod materion sy’n berthnasol i Swyddogion Gwirfoddol ac mae’n amlinellu ei farn ar ddyfodol yr Heddlu.
Mae'n Wythnos y Gwirfoddolwyr yr wythnos hon. Mae hon yn wythnos lle bydd pobl, ledled y DU, yn dathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr i'n cymunedau. Yn bersonol, hoffwn ddiolch, canmol a dathlu grŵp arbennig iawn o wirfoddolwyr sef aelodau o'r Heddlu Gwirfoddol.
Fel Arweinydd Cenedlaethol i'r Heddlu Gwirfoddol, gallaf ddweud, yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, fy mod yn cynrychioli un o'r sefydliadau gwirfoddol hynaf yng Nghymru a Lloegr (oddeutu 736 oed, dwi'n meddwl). Mae'r syniad o gwnstabliaid di-dâl a rhan amser yn tarddu'n ôl mor bell ag 1285 a theyrnasiad Brenin Edward I. Rwyf yn siŵr y bydd llawer o haneswyr yn awyddus i dynnu sylw bod yr Heddlu Gwirfoddol yn dyddio nôl i Ddeddf Swyddogion Gwirfoddol 1831 (eto, ddim yn ifanc; bydd yn 190 oed ym mis Hydref!). Fodd bynnag mae un peth rwyf yn siŵr y gallwn ni gyd gytuno arno. Mae egwyddor Peel sef 'yr heddlu ydy'r bobl a'r bobl ydy'r heddlu' wedi bod yn sail i blismona Prydeinig ers ei fabandod, tra mae wedi esblygu gyda gwleidyddiaeth y cyfnod. Yn fy marn onest i, mae'r Heddlu Gwirfoddol heddiw yn crynhoi hyn.
Mae'r Heddlu Gwirfoddol yn grŵp arbennig o bobl. Nid yn unig maent yn gwirfoddoli eu hamser, ond maent yn mynd drwy ddethol a hyfforddiant llym. Yna, tra mae pobl eraill yn ymlacio ar ddiwedd wythnos galed, maen nhw'n rhoi eu fest atal trywaniad, dillad llachar a helmed ac yna camu ymlaen i gymryd eu lle ar y 'llinell las denau'. Mae'r mwyafrif yn plismona eu tref neu bentref genedigol, gan wynebu llawer o risgiau a thrafferthion. Maent eisiau diogelu eu cymunedau a chyda dyhead gwirioneddol i gynorthwyo gwella bywydau pobl eraill.
Mae'r cysyniad hwn o risg bersonol yn fy annog i a'r tîm rwyf yn ei arwain go iawn. Gwneir hyn wrth gymell newidiadau cadarnhaol iawn i'r Heddlu Gwirfoddol. Bydd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd yn caniatáu’r Heddlu Gwirfoddol i gael eu cynrychioli gan Ffederasiwn yr Heddlu o'r diwedd. Felly byddant yn cael yr un cyfle am warchodaeth a chymorth â chydweithwyr arferol. Rydym yn symud i gamau olaf amlinellu'n union sut bydd hyn yn dwyn ffrwyth o safbwynt plismona. Rwyf yn benderfynol canlyn hyn at y diwedd. Bydd hyn, efallai, yn un o'r newidiadau pwysicaf i weithrediad yr Heddlu Gwirfoddol yn y chwarter canrif diwethaf.
Ar ben hyn, mae'r tîm yn gweithio ar fodel rhyngweithrededd cenedlaethol (a fydd yn caniatáu i Swyddogion Gwirfoddol o wahanol heddluoedd i gael eu lleoli'n genedlaethol). Bydd yn rhoi fframwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth gwell i Swyddogion Gwirfoddol. Bydd hefyd yn gosod hyfforddiant mwy strwythuredig ar gyfer rolau arwain (gan ganolbwyntio i ddechrau ar rolau allweddol y Rhingyll a'r Arolygydd Gwirfoddol). Mae hyn yn paratoi miloedd o swyddogion sy'n cwmpasu rhengoedd yr Heddlu Gwirfoddol yn well er mwyn ymdrin â'r peryglon maent yn eu hwynebu bob dydd bron.
Tra mae Swyddogion Gwirfoddol wedi bod yn fwy parod nag erioed i fodloni'r galwadau cynyddol ar Blismona, gan gyfrannu dros 3.5 miliwn o oriau yn ystod y pandemig (sy'n cyfateb i 1725 o swyddogion heddlu llawn amser), rydym yn gweld mwy o Swyddogion Gwirfoddol yn trosglwyddo'n effeithiol i rengoedd cyflogedig nag erioed. Mae hyn oherwydd gwell dealltwriaeth o blismona a sgiliau uwch sy'n cael eu magu gan unigolion o'u gwasanaeth gwirfoddol. Mae hyn yn dystiolaeth o'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ar bob lefel, ond mae hefyd wedi gorfodi cyflwyno swyddogion ymroddedig er mwyn cynyddu recriwtio Swyddogion Gwirfoddol. Mae gwaith ynghylch cyfathrebu, cyfryngau a symleiddio hyfforddiant yn symud yn dda. Bydd hefyd nifer o ddigwyddiadau recriwtio ar-lein ymroddedig dros y misoedd nesaf. Buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb yn yr Heddlu Gwirfoddol i'w mynychu. Bydd manylion yn cael eu cylchredeg yn bell ac agos. Rydym wirioneddol eisiau ein Heddlu Gwirfoddol i gynrychioli'r gymdeithas amrywiol ac amlddiwylliannol yr ydym yn byw ynddi.
I'r cyhoedd sy'n darllen hyn, buaswn yn hoffi dweud er bod yr wythnos hon yn sicr ynghylch dathlu, ac nid wyf eisiau tynnu'r hwyliau oddi ar hynny, y buaswn yn eich annog chi gyd i ystyried y bobl ddewr ac ymroddedig hynny sy'n hepgor rhan o'u hamser rhydd i batrolio'r strydoedd, cynorthwyo dioddefwyr trosedd a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Maent yn gwneud hyn wrth wynebu'r risgiau niferus sy'n dod yn sgil y rôl. Y rhain yw'r Heddlu Gwirfoddol. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r swyddogion eu hunain. Rydych yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i gymdeithas ac rwyf yn gobeithio y bydd y gwaith sy'n cael ei ymgymryd o dan fy arweinyddiaeth i a'm tîm yn deyrnged i hyn. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
DBG Richard Debicki
Arweinydd Cenedlaethol Heddluoedd Gwirfoddol CCPSH
Fel arweinydd CCPSH ar gyfer Dinasyddion mewn Plismona yng Nghymru, yr oeddwn am rannu ychydig o'm meddyliau â chi heddiw, Diwrnod y Cenhedloedd Cartref, y diwrnod yr ydym yn dathlu ein treftadaeth genedlaethol.
Mae Gweledigaeth Plismona 2025 yn ceisio gwneud Plismona yn wirioneddol gynrychioliadol o gymdeithas; mae hyn yn golygu cofleidio natur amrywiol ein cymunedau a sicrhau bod pob person, waeth beth fo'i amgylchiadau personol, yn gallu gweld yr Heddlu fel gwasanaeth sy'n eu cynrychioli ac sy'n deall ac yn diwallu eu hanghenion orau. Drwy annog a chefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol ac o bob rhan o gymdeithas i wirfoddoli o fewn Plismona, i agor mwy o linellau cyfathrebu â grwpiau cymunedol ledled y wlad a bod yn dryloyw ynglŷn â'r penderfyniadau a wnawn, byddwn yn sicrhau bod anghenion a disgwyliadau cymdeithas yn cael eu diwallu.
Yn ogystal ag edrych ymlaen, mae hefyd yn bwysig edrych yn ôl; Yng Nghymru, yr ydym yn hynod falch o'n treftadaeth a theimlaf fod cydbwysedd mawr yn cael ei daro rhwng croesawu newid heb anghofio ein gwreiddiau. Mae'r Gymraeg, yn perthyn i bob un ohonom, p'un a ydym yn ei siarad ai peidio neu ddim ond â rhywfaint o wybodaeth sylfaenol ohoni. Mae'n rhan annatod o'n diwylliant a'n treftadaeth a'n bywydau bob dydd yng Nghymru. Felly mae'n iawn ein bod yn ystyried hyn fel Heddluoedd pan fyddwn yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i'r cyhoedd ac i gydweithwyr yn y gwaith. Cynnig y gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg yw'r gyfraith, ond dyma'r peth iawn i'w wneud hefyd, ac mae'n helpu i feithrin yr hyder sydd mor bwysig mewn plismona. Mae'n rhaid i bob Heddlu yng Nghymru gydymffurfio â safonau'r Gymraeg ond hefyd mae gan CCPSH Cymru Strategaeth Iaith Gymraeg ac anogir pob aelod o weithlu'r Heddlu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac wrth ddelio â'r cyhoedd, i wneud ein rhan i adael “i'r hen iaith barhau", i fenthyg ymadrodd poblogaidd. Fe welwch swyddogion yn gwisgo eu bathodynnau 'Siarad Cymraeg' neu 'Dysgu' fel rhan o fenter i gefnogi hyn.
Wrth gwrs, byddwch hefyd yn adnabod nifer o eitemau ar lifrai Swyddogion Heddluoedd Cymru sy'n gyswllt â gorffennol balch ein cenedl; plu Tywysog Cymru, sy'n ffurfio rhan o fathodynnau y pedwar heddlu yng Nghymru (sef Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru) yn olrhain eu gwreiddiau yn ôl i'r Tywysog Edward, y Tywysog Du, un o Dywysogion cyntaf Cymru, ac mae son iddo eu cymryd o gorff y Brenin John o Bohemia a drechodd, gyda'r defnydd nodedig o Gwyr Bwa a Saeth Cymreig, ym Mrwydr Crecy. Nid oes tystiolaeth hanesyddol ar gyfer y cyswllt hwn, ond mae'n gwneud stori ddiddorol ac yn ychwanegu elfen o ddirgelwch o amgylch y symbol cenedlaethol saith can mlwydd oed!
Yn ail, mae defnyddio'r Ddraig Goch ar wisgoedd yr Heddlu, yn dystiolaeth bellach o'n cysylltiadau cryf â threftadaeth Cymru. Mae'r symbol bron yn 1200 mlwydd oed, yn ymddangos yn gyntaf fel symbol o'r Cymry yn Historia Brittonum (AD 829) ac yna'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y Chwedlau Arthuraidd a’r Mabinogi; mae'r straeon hyn yn clymu'r ddraig i le o'r enw Dinas Emrys, sydd ychydig y tu allan i Feddgelert, lleoliad gwirioneddol brydferth yn fy ardal fy hun yng Ngogledd Cymru. Mae’r Ddraig Goch yn ymddangos ar rhai o’n bathodynnau, gwisgoedd ac arwyddluniau ar draws cannoedd o sefydliadau yng Nghymru; mae’n destun balchder i swyddogion a staff ac yn bendant yn bwynt trafod.
Yr wyf eisoes wedi sôn am harddwch Beddgelert, ond fel y gwyddoch, mae'n siŵr, yr ydym yn ffodus iawn o gael rhai o'r tirweddau mwyaf dramatig a hardd y tu mewn i'n ffiniau; o Eryri yn y Gogledd, gan gynnwys Yr Wyddfa , Abergwyngregyn a chestyll Edward I, trwy Ganolbarth Cymru gyda Chlawdd Offa a Ffordd Glyndŵr, i Dde Cymru a rhaeadrau Pontneddfechan, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro. Wrth gwrs, wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud a bod cyfyngiadau'n gyffredinol yn cael eu llacio ymhellach, gallwn ddisgwyl yn llwyr ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd i'r diwydiant twristiaeth yn arbennig, gyda phobl yn dychwelyd i Gymru i fwynhau ein hamgylchedd hardd.
Mae'n sicr y bydd hyn yn effeithio ar wirfoddoli dros y misoedd nesaf a thu hwnt; rhagwelaf y byddwch chi, fel y gwirfoddolwyr cryf a dyfeisgar sydd wedi gwasanaethu eich cymunedau mor dda drwy gydol cyfnod anodd y pandemig, yn ymateb i'r her, yn addasu ac yn parhau i berfformio.
Fe wnes i ddiolch ichi i gyd yn gynharach yr wythnos hon, ond heddiw hoffwn ddiolch yn arbennig a dymuniadau gorau i bob dinesydd mewn plismona ledled Cymru heddiw: 'diolch yn fawr am eich gwaith caled, cadwch yn ddiogel'.
DBG Richard Debicki