Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Beth yw Dinasyddion mewn Plismona?
Dinasyddion mewn Plismona ydy’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r miloedd o bobl ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r heddlu. Mae rôl dinasyddion mewn plismona yn hanfodol – mae gwirfoddolwyr yn cynyddu gallu ein heddluoedd. Maent yn dod â sgiliau ac arbenigedd gwerthfawr i dimau heddlu, gan greu cysylltiadau agosach a mwy effeithiol gyda’n cymunedau.
Gwirfoddoli yng Ngogledd Cymru
Mae tri math o wirfoddolwr yng Ngogledd Cymru – Swyddogion Gwirfoddol, Gwirfoddolwyr Cynorthwyol yr Heddlu a Chadetiaid. Maent yn aml yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd mewn tîm. Ewch i wybod mwy am y rolau a’r cyfleoedd hyn isod.
Os ydych yn meddwl mai hyn ydy’ch gyrfa chi, anfon e-bost at [email protected] i gysylltu.
Cewch hefyd wybod os ydych yn gymwys am y cymorth rydym yn ei ddarparu drwy fynd ar ein tudalen tîm Gweithredu Positif.