Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cyfathrebwyr yn staff heddlu mewn lifrai yn ein Canolfan Gyfathrebu ar y Cyd yn Llanelwy. Gan gwmpasu Gogledd Cymru i gyd, nhw ydy'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sydd angen yr heddlu.
Mae rôl Cyfathrebwr yn heriol ond yn werth chweil lle bydd gofyn i chi ateb galwadau gan y cyhoedd, yn aml mewn sefyllfaoedd argyfyngus a dirdynnol. Byddwch yn asesu'r galwadau hynny a bod yn gyfrifol am gyfeirio'r lefel ymateb heddlu sydd ei angen, gan anfon adnoddau amrywiol i unrhyw ddigwyddiad sydd angen presenoldeb yr heddlu.
Mae bod yn Gyfathrebwr yn fwy nag ateb galwadau'n unig. Mae ynghylch cael a darparu gwybodaeth gywir er mwyn sicrhau y gwneir y penderfyniadau iawn er mwyn cynorthwyo a chadw pobl yn ddiogel. Ynghyd â galwadau 999 brys, byddwch hefyd yn gyfrifol am ymdrin â galwadau difrys (10), a chyfathrebu digidol fel sgyrsiau gwe byw ac ymholiadau e-bost.
Mae'r rôl yn hyfforddiant gwych o ran ymgyrchoedd Heddlu Gogledd Cymru, felly mae'n gyfle delfrydol i bobl sy'n dymuno datblygu gyrfa o fewn plismona. Bydd rhaid i chi wasanaethu o leiaf dwy flynedd fel Cyfathrebwr cyn ymgeisio am swydd fel Cwnstabl Heddlu neu unrhyw rôl arall o fewn y sefydliad.
Ydyn. Mae Cyfathrebwyr yn gweithio ar batrwm sifft sy'n cylchdroi, sy'n cynnwys gweithio weithiau ar benwythnosau, gwyliau banc a gyda'r nosau. Maent yn derbyn 20% o lwfans gweithio sifft a 14.14% o lwfans gweithio penwythnosau.
Mae Cyfathrebwyr yn gweithio fel rhan o rota sifftiau. Byddant wedi'u cynllunio 32 wythnos o flaen llaw os ydych yn weithiwr llawn amser. Byddant wedi'u cynllunio 64 wythnos o flaen llaw os ydych yn weithiwr rhan amser. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i gynllunio eich calendr o flaen llaw er mwyn cyd-fynd gyda'ch bywyd personol a'ch proffesiwn.
Oes. Fel heddlu dwyieithog, mae pob rôl o fewn Heddlu Gogledd Cymru angen lefel o sgiliau Cymraeg, fel y manylir yn y proffil swydd.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 4 yn hanfodol ar gyfer bod yn Gyfathrebwr. Byddwch angen gallu cyfathrebu'n llawn yn Gymraeg gyda phobl sy'n ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar linellau brys a difrys.
Mae hyn yn golygu eich bod angen gallu deall siaradwyr Cymraeg sy'n mynegi eu hunain yn Gymraeg a defnyddio Cymraeg bob dydd yn hyderus er mwyn ymateb i'w hymholiadau neu bryderon. Gallwch droi i'r Saesneg wrth ymdrin â sefyllfaoedd neu derminoleg cymhleth. Nid oes angen i chi allu ysgrifennu yn Gymraeg.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, cewch eich asesu ar eich gallu Cymraeg llafar. Byddwch yn derbyn cymorth a hyfforddiant gan yr heddlu er mwyn eich cynorthwyo chi gyflawni'r lefel angenrheidiol.
Gall fod achlysuron lle rydym yn newid y lefel sgiliau angenrheidiol i 3 – manylir hyn ar y proffil swydd ac unrhyw hysbysebu.
Nid ydych angen trwydded yrru er mwyn ymgeisio am y rôl. Ond fe ddylech ystyried eich bod angen teithio i/o'ch gweithle (sydd ym mharc busnes Llanelwy) ) a'ch amseroedd dyletswydd gan y byddwch yn gweithio sifftiau. • Efallai cynhelir hyfforddiant ym Mhencadlys Bae Colwyn.
Er mwyn dod yn Gyfathrebwr, byddwch yn mynd drwy ddeg wythnos o hyfforddiant dwys er mwyn eich paratoi chi ar gyfer y rôl unigryw hon. Bydd yr hyfforddiant yn mynd o sesiwn gynefino sylfaenol i HGC i wybodaeth fanwl o'r systemau technoleg gwybodaeth a'r gweithdrefnau unigryw i'r rôl.
Mae hyfforddiant yn ddwys ac yn werthfawr a bydd yn ymgorffori'r gyfraith, gwasanaeth cwsmeriaid, amrywiaeth, gwneud penderfyniadau a dulliau radio. Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn treulio pythefnos gyda mentor ac yna'n ymuno â'ch tîm dynodedig, lle byddwch yn derbyn cymorth parhaus er mwyn cynorthwyo eich datblygiad.
Fel aelod o staff yr heddlu, byddwch yn mwynhau’r manteision hyn:
Mae gofynion cymhwysol yr heddlu yn rhai manwl iawn. Nid ydym eisiau i chi dreulio amser yn llenwi’r ffurflen dim ond i chi ddarganfod ein bod ni yn methu eich derbyn chi! Atebwch y cwestiynau hyn i weld os ydych yn gymwys...
Byddaf – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Na fyddaf – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon hyd nes byddwch yn 16 oed (neu'n 18 oed os yw gwaith sifft ynghlwm).
Ydw – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Nac ydw – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon nac un arall o fewn HGC.
Ydw – ewch i’r cwestiwn nesaf.
Nac ydw – Gan ddibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod o’r wlad, efallai na fyddwch yn gallu ymgeisio. Os oedd am fwy na chwe mis, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio i drafod hyn ymhellach. Ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Nag oes – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Oes – mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma
Naddo – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol gall mathau eraill o gollfarn droseddol effeithio eich cais. Os oes gennych unrhyw bryderon cysylltwch â’n Tîm Recriwtio i drafod.
Do – mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma
Nac ydw – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Ydw – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon nac un arall o fewn HGC.
Nac oes – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Oes – Caniateir tatŵs, ond rhaid iddynt beidio â bod yn sarhaus na thanseilio urddas ac awdurdod eich rôl.
Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi anfon llun atom a disgrifiad o'ch tatŵs.
Rhai enghreifftiau o datws na fyddem yn eu derbyn yw:
Mae cyfweliadau yn seiliedig ar y Fframwaith Gwerthoedd Cymhwysol (PDF - Saesneg yn unig), eich gwaith ymchwil i Heddlu Gogledd Cymru a’r rôl yr ydych yn ymgeisio amdani.