Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Amod ydyw ein bod ni gyda'n gilydd yn cydnabod ac yn deall bod rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, gyda pharch gan y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o 3,000 o gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu gweithwyr sydd wedi gwasanaethu neu sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae hyn yn ymestyn i aelodau o gymuned y lluoedd arfog o fewn yr ardal - gweithwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu gwŷr a'u gwragedd a theuluoedd sydd wedi colli aelodau o'r lluoedd arfog.
Mae ERS yn cydnabod cefnogaeth oddi wrth sefydliadau tuag at gymuned y lluoedd arfog, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod wedi derbyn Gwobr Aur Cydnabod Cyflogwr.
Mae hyn yn dangos ein hymroddiad at gefnogi cymuned ein lluoedd arfog drwy sicrhau nad ydynt o dan anfantais mewn unrhyw ran o'r broses recriwtio a dethol, ynghyd ag unigolion sy'n gymwys i wneud cais am seibiant arbennig wedi ei dalu i gefnogi hyfforddiant hyd at 10 diwrnod y flwyddyn.
Er mwyn cael statws Medal Aur, rhaid i gyflogwyr:
Cred y Prif Gwnstabl Carl Foulkes, a fu'n beiriannydd awyrennau yn y Llynges Brydeinig, bod Gogledd Cymru yn darparu'r lleoliad delfrydol ar gyfer gweithwyr amddiffyn i drosglwyddo i waith yr heddlu.
Dywedodd: “Fel heddlu, mae Gogledd Cymru yn falch o gyflogi 13 milwr wrth gefn a fydd yn cael eu galw yn ôl i wasanaethu yn y lluoedd arfog pan fo angen.
“Mae'r unigolion hyn yn cyflawni nifer o rolau gweithredol a staff gyda Heddlu Gogledd Cymru ac mae eu sgiliau trosglwyddadwy yn ased defnyddiol yn eu gwaith heddlu.
“Fel cyn-filwr fy hunan, rwyf wirioneddol wrth fy modd bod gennym gymaint o weithwyr sydd wedi bod yn y lluoedd arfog ac wedi penderfynu dilyn gyrfa ym maes plismona yng Ngogledd Cymru.
“Gall pobl sydd wedi gwasanaethau eu gwlad yn y lluoedd arfog wneud gwahaniaeth mawr i blismona ac rwyf yn annog pawb sydd â diddordeb mewn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru i gysylltu â ni ac edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael.
“Fel y lluoedd arfog, mae'r gwahanol rolau sydd ar gael yn rhywbeth sy'n gwneud plismona yn unigryw ac yn ddiddorol iawn."
Os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, neu wedi bod yn aelod yn y gorffennol efallai eich bod yn ystyried Heddlu Gogledd Cymru fel cyflogwr yn y dyfodol.
Ynghyd â'r ffaith y byddwch yn ymuno â sefydliad deinamig, blaengar, cewch gyfle i weithio mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Gyda chymysgedd o gymunedau gwledig a threfol byddwch yn cael profiad eang o heriau gwahanol a chyffrous yn ddyddiol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i boblogaeth o bron i 676,000 ac yn 6,300 cilometr sgwâr. Fel sefydliad sy'n cyflawni'n llwyddiannus mae Heddlu Gogledd Cymru yn ceisio gwella'r gwasanaeth a roddir i'n cymunedau amrywiol.
Mae gennym ystod eang o gyfleoedd ar draws yr Heddlu, fel y gallwn ddilyn gyrfa gyffrous beth bynnag yw eich dewis. Os ydych yn ymuno â ni mewn lifrau neu fel aelod o staff, gallwch edrych ymlaen at ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu.
Byddwch yn cysgodi rhywun er mwyn deall am rolau ac unedau eraill ac yn astudio ar gyfer cymwysterau arwain, mae cymaint o ddewisiadau ar gyfer twf personol. Os ydych am ddringo i fyny'r rhengoedd neu am ddatblygu sgiliau newydd, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Gallwch ganfod mwy am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael drwy edrych ar ein safle recriwtio.