Yn ystod tymhorau ysgol, rydym yn cyfarfod gyda'r nos am sesiwn hyfforddiant dwy awr. Gallwch hefyd wirfoddoli am dair awr ychwanegol bob mis i gynorthwyo plismona lleol a mentrau cymunedol.
Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym nawr yn recriwtio Cadetiaid yr Heddlu.
Mae'r cyfnod ymgeisio yn cau ar 28 Gorffennaf 2024 am 23:59
Weithiau, portreadir pobl ifanc mewn ffordd wael yn y cyfryngau. Mae bod yn gadét yn cynnig cyfle i chi ddangos y cyfraniad cadarnhaol y gallwch ei wneud i'ch cymuned.
Bydd ein cadetiaid yn ymuno â ni am nifer o resymau. Yn ogystal â chael hwyl a chyfarfod pobl newydd, mae'n ffordd wych hefyd o:
Gall bod yn gadét eich helpu i feithrin y sgiliau hyn:
Fel cadét, byddwch yn cael syniad gwych o'r gwaith a gyflawnir gan yr heddlu, ond nid yw'n llwybr uniongyrchol er mwyn ymuno â'r heddlu.
Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu'n grŵp amrywiol o bobl ifanc 13-18 oed, sydd â dyhead ar y cyd i gynorthwyo eu cymunedau lleol a magu dealltwriaeth ymarferol o blismona.
Mae unedau'n cyfarfod mewn colegau lleol unwaith yr wythnos ac yn cael eu harwain gan swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr. Yn ogystal, mae cadetiaid yn datblygu eu sgiliau arwain drwy ymgymryd â phrosiectau gweithredu cymdeithasol heriol yn eu cymunedau, gyda disgwyliad y gwnânt wirfoddoli 3 awr y mis.
Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys gweithgareddau fel cynorthwyo aelodau hŷn o'r gymuned i ddeall troseddau seiber, codi arian at elusennau ac ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd.
Rydym yn croesawu cadetiaid o unrhyw gefndir, grŵp cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd, gallu/anabledd ac os oes gennych ddiddordeb yn yr heddlu neu beidio.
Er mwyn dod yn gadét gwirfoddol yr heddlu, rhaid i chi:
Er mwyn dod yn gadét gwirfoddol yr heddlu, dylech:
Fel cadét gwirfoddol yr heddlu, byddwch yn ymgysylltu mewn dyletswyddau amrywiol fel:
Yn ystod tymhorau ysgol, rydym yn cyfarfod gyda'r nos am sesiwn hyfforddiant dwy awr. Gallwch hefyd wirfoddoli am dair awr ychwanegol bob mis i gynorthwyo plismona lleol a mentrau cymunedol.
Mewn colegau lleol ar draws Gogledd Cymru. Cewch fynd i’r un agosaf at eich cartref.
Mae lle ar gyfer 20 Cadét ymhob uned ac ar hyn o bryd mae gennym 6 Uned ar draws Gogledd Cymru yn yr ardaloedd canlynol:
Bydd, byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:
Bydd disgwyl i chi ddod â ‘polish’ eich hun.
Dim, dewch â’ch brwdfrydedd a’ch ymroddiad i gyfrannu at y gweithgareddau. Dewch ag arian poced ar gyfer y siop.
Cewch wneud cais i ymuno os ydych yn 13 oed neu fwy ym mis Medi ond ddim yn hŷn na 15 oed.
Mae’r cadetiaid yn aros mewn uned am 2 flynedd. Gallwch aros wedyn fel Cadét Uwch ond dim ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed.
Os hoffech barhau gyda’r Cadetiaid ar ôl 18 oed gallwch wneud cais i fod yn Arweinydd y Cadetiaid, os oes gennych y sgiliau sydd eu hangen.
Bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu ar ein gwefannau pan fyddant ar gael.
Rydym yn croesawu Cadetiaid o bob math o gefndir, grŵp cymdeithasol, rhywedd, gallu/anabledd ac os oes gennych ddiddordeb yn yr heddlu neu beidio.
Rydym yn croesawu pobl ifanc a fu mewn trwbl gyda’r heddlu yn y gorffennol neu yn teimlo eu bod wedi eu datgysylltu oddi wrth eu cyfoedion a’u cymuned.
Nid ydym yn chwilio am recriwtiaid y dyfodol ond yn hytrach am roi cyfle i bobl ifanc gael llais, i gefnogi’r gymuned a datblygu’r sgiliau i fod yn ddinasyddion ardderchog mewn modd sy’n gyffrous ac yn hwyl.
Does dim byd tebyg i’r cadetiaid – mae’n brofiad unigryw i bobl ifanc ac yn gyfle i fod yn rhan o’r teulu plismona am flynyddoedd lawer.
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Cadetiaid yr Heddlu.
Lawrlwythwch y ffurflen gais a'r holiadur meddygol isod:
Mae'r cyfnod ymgeisio yn cau ar 28 Gorffennaf 2024 am 23:59
Lles a diogelwch ein cadetiaid yw ein blaenoriaeth bennaf.
Gall arweinwyr y cadetiaid gynnwys Swyddogion yr Heddlu, Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, aelodau o staff yr heddlu a Gwirfoddolwyr yr Heddlu.
Mae’r holl oedolion sy’n gweithio gyda’n cadetiaid yn mynd drwy eich system fetio drylwyr. Mae eu hyfforddiant cychwynnol fel arweinwyr cadetiaid yn cynnwys hyfforddiant diogelu ac yn cael arweiniad clir ar sut i weithio gyda phobl ifanc, yn ogystal â’r ymddygiad a safonau sydd i’w ddisgwyl oddi wrthynt fel arweinwyr cadetiaid.
Mae’r holl weithgareddau y mae’r cadetiaid yn eu gwneud yn cael eu hasesu ar gyfer risg. Bob tro y byddant allan yn gwneud gweithgareddau o fewn y gymuned maent bob amser o dan oruchwyliaeth eu harweinwyr.
Ni fydd y Cadetiaid yn cael cymryd rhan mewn gweithgaredd os yw’r asesiad risg yn awgrymu gwrthdaro. Os bydd risg o’r fath yn codi yn ystod gweithgaredd bydd y Cadetiaid yn cael eu tynnu o’r gweithgaredd ar unwaith.
Dim ond staff neu gontractwyr sydd yn gymwys i arwain a rhedeg gweithgareddau o’r fath sy’n cael arwain.
Bydd unrhyw un sy’n arwain gweithgareddau antur awyr agored yn gorfod dangos dogfennau yswiriant a chymwysterau ar gyfer goruchwylio’r math hwn o weithgaredd cyn iddo ddigwydd.
Ein nod yw:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun cadetiaid, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected].