Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhai pobl o grwpiau gwarchodedig yn gallu teimlo na ddylen nhw neu na fedran nhw gyflwyno cais am rôl yr hoffen nhw ei wneud, oherwydd ffactorau cymdeithasol neu hanesyddol. Efallai bod ganddyn nhw syniad sut beth ydy'r rôl, ac yn credu na fydden nhw'n addas ar ei chyfer oherwydd hyn.
Yn Heddlu Gogledd Cymru, ‘rydym yn deall mai ein hased fwyaf yw ein gweithlu. 'Rydym wedi ymrwymo sicrhau ein bod yn cynrychioli'r gymuned 'rydym ni'n ei gwasanaethu. 'Rydym yn credu gwnaiff hyn ein cynorthwyo ni gynnig y gwasanaeth gorau posib i'n cymuned ni, gan sicrhau ein bod yn deall ei anghenion amrywiol a rhoi cymorth sy'n ymateb i hyn. 'Rydym yn ymdrechu creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cynorthwyo. 'Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir a diwylliant er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu.
Mae Cymorth Gweithredu’n Bositif ar gael er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i bobl o grwpiau gwarchodedig sy'n cael eu tangynrychioli. Mae cymorth fel hyn yn gallu cynorthwyo sicrhau bod unigolion o grwpiau gwarchodedig yn cael gwell dealltwriaeth o’r rôl; sut mae hyn yn edrych, beth ydy'r cyfrifoldebau, a sut all eu sgiliau a'u profiad personol fod yn addas ar gyfer y rôl.
Mae Gweithredu’n Bositif yn annog pobl deimlo'n fwy cyfforddus i gyflwyno cais, a gwybod y bydd yn cael ei drin yn deg. Os hoffech ddysgu mwy am gymorth gweithredu’n bositif, anfonwch e-bost at [email protected]