Beth yw lefel 1?
Mae bod â sgiliau Cymraeg lefel 1 yn golygu eich bod yn gallu ynganu enwau personol a lleoedd Cymraeg, rhywfaint o’r eirfa sy'n ymwneud â'r heddlu, ac yn gallu deall a dweud cyfarchion ac ymadroddion sylfaenol.
Os cewch gynnig swydd gyda ni sy’n gofyn am Gymraeg lefel 1, yna fe wnawn eich gwahodd i asesiad ffôn am 10 munud. Lawrlwythwch y papur prawf neu agorwch hwn o’ch blaen cyn i ni eich ffonio i gynnal yr asesiad.
Bydd y deunydd isod i'w lawrlwytho yn eich helpu i baratoi ar gyfer y prawf.