Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pob rôl o fewn HGC yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg, fel y nodir yn y proffil swydd.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu Cymraeg llafar.
Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad, mae'r adran hon yn egluro beth mae pob lefel yn ei olygu ac yn darparu adnoddau dysgu.
Lefel | Lefelau Cymraeg Llafar |
0 | Dim gwybodaeth o Gymraeg llafar |
1 | Golyga hyn eich bod yn gallu deall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau pobl ac ychydig o eirfa blismona yn ogystal â'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml, pob dydd yn Gymraeg. |
2 | Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI y gallwch roi a derbyn manylion personol a gwybodaeth sylfaenol, gwneud ceisiadau syml a dweud rhai ymadroddion amdanoch eich hun yn Gymraeg. |
3 | Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI a HGC L2 y gallwch sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaeth ac er mwyn rhoi gwybodaeth fanwl. Gallwch ddeall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol, disgrifio pobl a lleoliadau a defnyddio ymadroddion syml yn Gymraeg. |
4 | Golyga hyn yn ogystal â dangos sgiliau Cymraeg llafar HGC LI, HGC L2 a HGC L3 gallwch ddeall a delio â phobl mewn Cymraeg llafar yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg er mwyn trin sefyllfaoedd cymhleth neu derminoleg. |
5 | Golyga hyn eich bod yn gallu sgwrsio yn Gymraeg ym mhob sefyllfa. |