Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at ein cymunedau dwyieithog a Chymraeg eu hiaith o ddifrif. Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu nifer o fentrau i wella ein gallu i arddangos cwrteisi ieithyddol ac i gynnig gwir ddewis iaith i’r cyhoedd. Rydym hefyd yn gweithio tuag at gynnig yr un dewis iaith i’n staff.
Mae ein staff i gyd yn gallu siarad Saesneg, ac mae bron i draean ohonynt yn ddwyieithog ac yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Gyda chefnogaeth yr Heddlu, mae llawer mwy yn dysgu’r iaith neu yn gwella eu sgiliau a’u hyder i’w defnyddio.
O safbwynt ymateb i ofynion deddfwriaethol mae’r Heddlu yn gallu dangos ei ymrwymiad ei hun ar ffurf ein Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn rhoi statws cyfartal i’r ddwy iaith ac i weithio tuag at fod yn sefydliad dwyieithog.
Fel rhan o’n cynlluniau dwyieithog rydym wedi cynhyrchu Protocolau iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod yr holl staff newydd, yn ogystal â’n staff cyfredol yn meddu ar sgiliau llafar Cymraeg sylfaenol. Gall ynganu enwau unigolion ac enwau llefydd yn gywir, ynghyd â defnyddio ychydig o eiriau neu ymadroddion syml, wneud byd o wahaniaeth a bydd yn arddangos cwrteisi, parch a sensitifrwydd ieithyddol. Mae’r gallu i ddeall ac ynganu enw lleoliad Cymraeg neu gyfeiriad yn gywir yn fater iechyd a diogelwch i ni i gyd.
Yn 2010 bu i Heddlu Gogledd Cymru dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei waith a’i brosiectau arloesol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg pan enillodd y categori ‘Cymraeg yn y Gweithle’ yng ‘Ngwobrau Ysbrydoli Cymru’ Sefydliad Materion Cymreig.
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg
Mae gennym dîm sy’n gyfrifol am gynnig arweinyddiaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar faterion iaith Gymraeg i’r Heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Gan nad yw ein holl staff yn gallu siarad neu ysgrifennu Cymraeg yn rhugl mae gennym uned gyfieithu ddynodedig. Maent yn cynorthwyo’r staff er mwyn sicrhau bod unrhyw ddogfen neu wybodaeth ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd staff yr uned gyfieithu hefyd yn cyfieithu gwybodaeth a gafwyd gan y cyhoedd yn Gymraeg i Saesneg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus a mewnol. Maent hefyd yn darparu cymorth fel rhan o faterion plismona gweithredol.
Mae aelodau eraill o’r Adran yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo Cydgynllun Iaith Gymraeg yr Heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghyd â mentrau eraill er mwyn annog a chefnogi staff i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle.