Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Uned Amrywiaeth yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau a hyrwyddo cynlluniau gweithredu ymarferol sy’n cefnogi tegwch yn y gweithle, ac sy’n sicrhau bod pob rhan o’r gymuned yn derbyn gwasanaeth plismona teg.
Mae’r uned yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod ein polisïau a’n harferion yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a bod yr holl staff yn llwyr ddeall yr angen i atal anffafriaeth rhag digwydd. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo gwell perthnasau yn y gweithle ac o fewn ein cymunedau.
Mae’r Uned Amrywiaeth yn rheoli cydlynu Bwrdd Strategol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Heddlu. Mae’r Bwrdd hwn, a gadeirir gan y Dirprwy Brif Gwnstabl yn darparu’r cymhelliant strategol allweddol ar gyfer hyrwyddo a rheoli Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o fewn y sefydliad. Daw’r Bwrdd Strategol ag arweinwyr allweddol at ei gilydd o fewn yr Heddlu ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth o’r Grŵp Ymgynghori Annibynnol a Cymunedol.
Un o brif swyddogaethau Swyddogion Amrywiaeth Lleol yw ymweld â, a gweithio gydag aelodau’r gymuned i hyrwyddo dealltwriaeth o’r broses blismona. Mae’r Swyddogion Amrywiaeth wedi datblygu perthnasau gwaith ardderchog gyda grwpiau cefnogi yn eu hardaloedd lleol, sydd weithiau’n gweithredu fel darparwyr gwybodaeth trydydd parti gan alluogi dioddefwyr trosedd casineb i riportio digwyddiadau yn ddienw.
Mae’r Swyddogion Amrywiaeth yn cynnal cymorthfeydd/fforymau cymunedol rheolaidd i drafod polisïau a chyfeiriad strategol Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn i aelodau’r gymuned ddeall beth yw swyddogaethau a pholisïau’r Heddlu.
Mae’r grwpiau ymgynghori canlynol wedi cael eu sefydlu:
Yn ogystal â'r Grwpiau hyn, mae'r heddlu hefyd wedi sefydlu Grŵp Llywio Amrywiaeth. Mae'r grŵp yma yn gweithredu fel fforwm ar gyfer trafod sylwadau allanol a mewnol a gafwyd am amrywiaeth. Mae hefyd yn gyfle i weithio gydag aelodau o’n cymunedau er mwyn galluogi'r Heddlu i ymateb yn effeithiol i faterion amrywiaeth.
Os hoffech fynychu unrhyw un o’r grwpiau hyn neu ddysgu mwy amdanynt, yna cysylltwch â ni naill ai drwy anfon ebost at [email protected] neu ffonio 01492 805398.
Nid yw Cynghorwyr y Grŵp Ymgynghori Annibynnol (GYA) yn aelodau o wasanaeth yr heddlu, nid oes yna gysylltiad rhyngddynt ac nid ydynt yn gweithredu ar ran unrhyw sefydliad. Mae’r GYA yn rhoi cyngor annibynnol a diduedd ar faterion amrywiaeth mewnol ac allanol sy’n berthnasol i Heddlu Gogledd Cymru.