Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Mai 2021, gwnaeth y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol gyflwyno cwyn uwch i Arolygaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) o ran defnydd yr heddlu o stopio a chwilio o dan Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a chraffu annibynnol holl rymoedd stopio a chwilio.
Mae awdurdodiad adran 60 yn rhoi grymoedd i'r heddlu stopio a chwilio pobl a cherbydau am "arfau ymosodol neu arfau peryglus". Mae'r grymoedd hyn ond yn berthnasol i ardal ddynodedig mewn ardal heddlu am gyfnod penodol o amser.
Mae'r Gynghrair wedi codi pryder ynghylch "craffu annigonol" o ran craffu defnydd yr heddlu o Adran 60 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus, a'u defnydd o rymoedd stopio a chwilio eraill. Y grymoedd hyn ydy'r rhai hynny o dan adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) ac adran 23 Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.
Yn dilyn ymchwiliad gan HMICFRS, y Coleg Plismona, a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH), o ran 11 o heddluoedd gwaith maes yn Lloegr, cafodd adroddiad yn cynnwys deg argymhelliad i Brif Gwnstabliaid ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n derbyn bob un o'r argymhellion a 'da ni yn y broses o asesu ein cyflawniad ni o ran bob un o'r rhain. 'Da ni eisoes wedi datblygu ein cynllun gweithredu ni. Byddwn ni'n gweithio ar draws ein gweithlu ni, hefo'n partneriaid craffu annibynnol sefydledig a'r Coleg Plismona er mwyn ymdrin hefo'r argymhellion gafodd eu codi o fewn y ffrâm amser angenrheidiol.