Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfres o ofynion cyfreithiol rhwymol ydy Safonau’r Gymraeg sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall y cyhoedd yng Ngogledd Cymru eu disgwyl gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r Safonau’n nodi beth ydy ein cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau a gwybodaeth ddwyieithog i’r cyhoedd ac i’r staff mewn sefyllfaoedd penodol, gan sicrhau nad ydy’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau’n cynnig cyfle i atgyfnerthu a gwella ein darpariaeth ddwyieithog.
Gweler y lawrlwythiadau isod.
Os ydych yn teimlo nad ydym wedi cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg sy’n berthnasol i Heddlu Gogledd Cymru, yna ewch at ein adran cwynion.
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus a chyrff y Goron yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr holl heddluoedd a’r Sector Cyfiawnder yng Nghymru. Mae’n dilyn cyfnod o dros 400 o flynyddoedd yn ein hanes pan mai Saesneg oedd yr unig iaith weinyddol. Ers 1993 mae’n ddyletswydd arnom i gynhyrchu Cynllun Iaith Gymraeg sy’n egluro mewn manylder sut ydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gennym y sgiliau a’r gallu angenrheidiol i gynnig gwir ddewis iaith i’r cyhoedd.
Erbyn hyn mae gennym ddeddfwriaeth Iaith Gymraeg manylach. Cafodd y Mesur Iaith Gymraeg Gydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2011. Mae'r ddeddf newydd hon yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ochr yn ochr â'r iaith Saesneg. Yn ogystal â chyflwyno nifer o ‘Safonau’ iaith Gymraeg mae hefyd yn cyflwyno rôl Comisiynydd Iaith Gymraeg fydd â phwerau gweithredu cryf er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i gael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
O safbwynt ymateb i ofynion y ddeddfwriaeth hon mae’r Heddlu yn gallu dangos ei ymrwymiad ei hun ar ffurf ein Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn rhoi statws cyfartal i’r ddwy iaith ac i weithio tuag at fod yn sefydliad dwyieithog.