Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Adroddiadau Monitro
O dan adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) a Rheoliadau 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol), mae gofyn i ni gyhoeddi gwybodaeth cydraddoldeb. Mae hyn er mwyn dangos ein cydymffurfiaeth hefo'r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol. Mae ein Hadroddiad Amrywiaeth Blynyddol a'n Hadroddiad Cynrychioli'r Gweithlu yn rhan o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei monitro a'i chyhoeddi er mwyn ein cynorthwyo ni ystyriaethau cydraddoldeb o fewn ein darpariaeth gwasanaeth ac arferion cyflogaeth. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo ni gyflawni ein cyfrifoldebau o dan y ddyletswydd.
Adroddiad Amrywiaeth Blynyddol
Nod yr adroddiad hwn ydy asesu cymesuredd ein plismona gweithredol yn ardal Heddlu Gogledd Cymru yn ystadegol, ar draws nodweddion Oedran, Rhywedd ac Ethnigrwydd. Tynnwyd sylw at unrhyw eithriadau a nodwyd o ddadansoddiadau data gyda chyd-destun pellach, neu fe'u codwyd er mwyn craffu arnynt ymhellach. Mae'r gweithgarwch plismona a ystyriwyd ym mhob adroddiad blynyddol yn cynnwys:
Adroddiad Cynrychiolaeth y Gweithlu
Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi trosolwg o'n data monitro cyflogaeth ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Maent yn cynnwys gwybodaeth am ddemograffig sy'n ymwneud â Nodweddion Gwarchodedig Oedran, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw a Chyfeiriadedd Rhywiol. Mae'r adroddiadau'n cynnwys y wybodaeth sydd gennym mewn perthynas â "Gweithwyr," h.y. Swyddogion Heddlu a Staff yr Heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu.
Rydym yn annog staff yn barhaus gynnig gwybodaeth bersonol o ran eu nodweddion. Tra ma cyfraddau datgan yn parhau i wella bob blwyddyn, mae hyn yn wirfoddol. Mae unigolion yn gallu dymuno datgan neu beidio. Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn ein cynorthwyo ni ddeall problemau cydraddoldeb yn ein gweithlu a gwneud penderfyniadau cytbwys ar newidiadau i'n polisïau ac arferion ni.