Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn cymryd cydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif, a hynny o fewn y sefydliad ac yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae gennym Uned Amrywiaeth sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl staff, drwy bolisïau ac arferion, yn deall sut y gall anffafriaeth ddigwydd.
Mae ein gwasanaethau yn ymateb i anghenion amrywiol ein cymunedau a’n diwylliannau lleol drwy ymgysylltu â nhw a deall eu hanghenion penodol. Drwy wneud hyn rydym yn gallu plismona’n ardal yn fwy effeithiol.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ganlyniad blynyddoedd o drafodaethau am sut i wella cyfraith cydraddoldeb Prydain. Mae’n cynnig gwell amddiffyniad i unigolion yn erbyn anffafriaeth. Mae’n nodi yn fwy eglur beth yw cyfrifoldebau cyflogwyr a busnesau. Mae hefyd yn cyflwyno disgwyliadau newydd sef y dylai gwasanaethau cyhoeddus drin pawb gyda pharch ac urddas.
Ein cyfrifoldeb ni, fel y gwasanaeth plismona, yw ystyried yr angen i:
Mae’r ddeddf yn rhoi cyfle i’r Heddlu arddangos ei ymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein holl gymunedau yn cael eu trin yn deg.
Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut mae hyn yn eich effeithio, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Isod ceir dolen i wybodaeth yr ydym yn ei chadw am gydraddoldebau yn Heddlu Gogledd Cymru ac Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda chrynodeb o beth mae’n ei ddweud wrthym a pha feysydd plismona y mae’n berthnasol iddynt. Fe groesewir eich adborth ar yr wybodaeth neu ar unrhyw fylchau.
Dyma genhadaeth RCSCGC:
Prif ffrydio a chynnig cyngor ynglŷn â chydraddoldeb ar draws Gogledd Cymru trwy amcanion cyfun, cydweithio a threfnu.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (GCCC) yn darparu gwybodaeth a chymorth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol i unigolion yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gan gydnabod y gwahaniaethau cyfansoddiadol, cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi, sef:-