Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cychwyn ar dacteg partneriaeth aml-asiantaeth o'r enw Hel, Dal, Cryfhau, wedi ei ddylunio gan y Swyddfa Gartref er mwyn adfywio ardaloedd sy’n teimlo effaith trosedd difrifol a threfnedig fwyaf.
Mae'r fenter tri cham yn defnyddio cyfuniad o ymgyrchoedd heddlu amlwg iawn wedi'u targedu a thactegau plismona cudd ochr yn ochr â gweithgarwch a help gan bartneriaid. Ceir hefyd fewnbwn gan breswylwyr er mwyn gwarchod ein cymunedau ni ac atal grwpiau troseddau trefnedig rhag gweithredu.
Beth?
Mae'r strategaeth yn gweld yr heddlu'n mynd ar drywydd aelodau gangiau gan ddefnyddio'r holl rymoedd a thactegau sydd ar gael. 'Da ni'n hel ardal. 'Da ni'n parhau gweithredu er mwyn dal y lleoliad, fel nad ydy gang arall yn gallu cymryd rheolaeth yn y cyfamser. Yna, byddwn ni’n cryfhau'r gymuned yn ardal lle byddai pobl yn hoffi byw, gweithio ac ymweld â hi ac yn ardal llai agored o gael ei defnyddio gan grwpiau trosedd trefnedig a llinellau cyffuriau.
Ble?
Mae’r fenter yn cychwyn yn Gorllewin y Rhyl, a’i elwir yn lleol yn ADNEWYDDU.
Pryd?
Mae hwn yn brosiect tymor hir a bydd y gwaith yn barhaus.
Pam?
Bydd gweithredu'r dull holistaidd hwn yn ei gwneud hi'n anoddach i grwpiau troseddau trefnedig weithredu. Bydd yn aflonyddu ar eu gweithgarwch a'u hincwm, a bydd yn helpu gwarchod y rhai hynny sy'n byw, ymweld ac yn gweithio yng Ngorllewin y Rhyl. Bydd hefyd yn helpu'r bobl hynny sy'n debygol o gael eu camddefnyddio gan gangiau. Drwy gydweithio a gwrando ar anghenion trigolion, bydd ADNEWYDDU yn adfywio ardaloedd sydd wedi cael eu difetha gan droseddau difrifol a threfnedig. Bydd yn caniatáu trigolion adfer eu cymunedau, creu cadernid tymor hir yn erbyn grwpiau trosedd trefnedig a helpu atal bygythiadau i ddiogelwch yn y dyfodol.
Sut?
Bydd yr holl bartneriaid yn gweithio'n agos er mwyn rhannu gwybodaeth a nodi llecynnau sydd angen eu hadfywio yn ogystal â gweithgarwch penodol er mwyn cael gwared ac aflonyddu grwpiau troseddau trefnedig. Ar ben hyn, bydd partneriaid yn rhoi cyngor a gwasanaethau, i'r rhai hynny sydd angen help a all fod yn cael trafferth cael mynediad at help. Bydd ardaloedd o dan sylw yn cynnwys: y mannau lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn hamddena, cyfleoedd i bobl ifanc, help hefo cyflogaeth, help i gael mynediad at gyllid, problemau iechyd, atal trosedd a chyngor diogelwch.
Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal hefo grwpiau cymunedol a fydd yn rhoi cyfleoedd am fewnbwn gan drigolion er mwyn penderfynu sut all partneriaid helpu cymunedau orau.
Pwy?
Mae partneriaid sy'n gysylltiedig hefo ADNEWYDDU yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych, Safonau Masnach, Gwasanaethau Plant a'r Digartref, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cymdeithasau Tai, Camddefnyddio Sylweddau BIPBC, Gwasanaeth Prawf Cymru, busnesau lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion.