Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried y Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd a'r Bwlch Cyflog ar Sail Ethnigrwydd o fewn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r bylchau Cyflog ar Sail Rhywedd ac ar Sail Ethnigrwydd yn wahanol i Gyflog Cyfartal. Y prif wahaniaethau yw:
Cafwyd y ffigyrau data isod ar y “dyddiad ciplun”, sef 31 Mawrth 2024 ar gyfer blwyddyn adrodd 2024-2025. Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus gyhoeddi eu data bwlch cyflog ar sail rhywedd drwy'r Gwasanaeth Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd cyn y dyddiad cau sef 30 Mawrth 2025.
At ddibenion adrodd, mae'r cyfartaledd cymedrig yn cael ei gyfrif drwy adio’r holl rifau mewn set ac yna rhannu’r swm gan y cyfanswm o gyfrif rhifau. Mae'r canolrif yn cael ei gyfrif drwy drefnu bob rhif yn nhrefn maint. Y rhif yn y canol yw’r canolrif.
Y Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd
Mae Rheoliadau (Gwybodaeth Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd) 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau penodol ar sefydliadau sector cyhoeddus gyda 250 neu fwy o weithwyr er mwyn adrodd ar eu bwlch cyflog ar sail rhywedd.
Nid yw adrodd am gyflog ar sail rhywedd yn adolygiad o gyflog cyfartal am waith cyfartal. Yn hytrach, mae’n cymharu cyfraddau cyflog bob awr ac unrhyw fonysau gall staff eu derbyn yn ôl rhywedd, gan geisio datgelu unrhyw anghydbwysedd. Yn dilyn dadansoddiad pellach o’r canlyniadau, gellir gwneud rhai casgliadau ynghylch pam fod y bwlch cyflog presennol yn bodoli. Mae’r dadansoddiad a’r canfyddiadau yn caniatáu Heddlu Gogledd Cymru (HGC) ddeall lle i arwain ymyriadau gweithredu positif er mwyn cau’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn y dyfodol.
Y bwlch cyflog cymedrig a chanolrifol
Mae cyfradd bob awr merched yn:
|
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
Cymedr |
8.4% yn is na dynion |
8.8% yn is na dynion |
9.3% yn is na dynion |
8.4% yn is na dynion |
11.0% yn is na dynion |
Canolrif |
15.5% yn is na dynion |
16.2% yn is na dynion |
16.6% yn is na dynion |
16.6% yn is na dynion |
17.3% yn is na dynion |
Y bwlch bonws cyflog cymedrig a chanolrifol
Mae cyflog bonws merched yn:
|
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
Cymedr |
54.0% yn is na dynion |
25.8% yn is na dynion |
81.3% yn is na dynion |
69.6% yn is na dynion |
4.9% yn is na dynion |
Canolrif |
75.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
93.2% yn is na dynion |
75.0% yn is na dynion |
-112.5% yn is na dynion |
Cyfran o weithwyr gwrywaidd a benywaidd sy’n derbyn taliad bonws
|
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
Gwryw |
3.6% |
1.8% |
0.88% |
0.87% |
1.94% |
Benyw |
3.1% |
0.6% |
1.17% |
0.45% |
1.22% |
Cyfran o weithwyr gwrywaidd a benywaidd ym mhob band chwartel cyflog
|
Chwartel isaf |
Chwartel canol isaf |
Chwartel canol uchaf |
Chwartel uchaf |
Gwryw |
41.9% |
41.6% |
53.0% |
61.6% |
Benyw |
58.1% |
58.4% |
47.0% |
38.4% |
Deall y Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd
Wrth ystyried Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd Heddlu Gogledd Cymru, mae'n ddefnyddiol deall y ffactorau canlynol. Gyda'i gilydd, maent yn cael effaith cyffredinol ar waethygu unrhyw fwlch cyflog:
Mae felly’n ddefnyddiol rhannu'r ddau grŵp ac adrodd ar eu bylchau cyflog priodol ar wahân:
Y bwlch cyflog cymedrig a chanolrifol ar gyfer Swyddogion Heddlu
Mae cyfradd bob awr merched yn:
|
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
Cymedr |
4.6% yn is na dynion |
5.5% yn is na dynion |
6.1% yn is na dynion |
6.2% yn is na dynion |
8.6% yn is na dynion |
Canolrif |
0.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
Y bwlch cyflog cymedrig a chanolrifol ar gyfer Staff Heddlu
Mae cyfradd bob awr merched yn:
|
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
Cymedr |
8.3% yn is na dynion |
7.0% yn is na dynion |
6.7% yn is na dynion |
5.8% yn is na dynion |
8.3% yn is na dynion |
Canolrif |
6.4% yn is na dynion |
4.6% yn is na dynion |
6.2% yn is na dynion |
5.6% yn is na dynion |
6.6% yn is na dynion |
Ers sawl blwyddyn, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cydnabod y gall wneud mwy i ymdrin â thangynrychioliaeth yn y gwasanaeth heddlu. Mae denu mwy o ferched i ymuno fel swyddogion heddlu a gwella cynnydd ar gyfer swyddogion heddlu a staff yr heddlu benywaidd yn parhau’n flaenoriaeth allweddol o fewn ein Strategaeth Cynrychioli'r Gweithlu.
Rydym yn parhau i annog mwy o ferched i ymuno fel swyddogion heddlu, ac mae hyn yn parhau’n flaenoriaeth allweddol. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth o fentrau sydd wedi’u hanelu at gynyddu cynrychiolaeth merched ac ymgeiswyr ledled holl grwpiau a dangynrychiolir.
Lleihad yn y Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd
Mae adroddiad eleni'n dangos, yn gyffredinol, fod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn HGC wedi gostwng o 8.8% i 8.4%. Ers i ni ddechrau adrodd ein ffigyrau yn 2018, mae cymedr bwlch tâl wedi lleihau bob blwyddyn, ar wahân i 2022-23, lle bu cynnydd bach. Ystyrir bod y cynnydd hwn oherwydd nifer o ffactorau, yn cynnwys:
Ers hynny, nid yw ffigyrau recriwtio wedi bod mor uchel, ac mae'r ffigyrau bwlch cyflog i weld yn dychwelyd i lawr.
2024-2025 |
2023-2024 |
2022-2023 |
2021-2022 |
2020-2021 |
2019-2020 |
2018-2019 |
2017-2018 |
8.4% |
8.8% |
9.3% |
8.4% |
11.0% |
11.4% |
12.9% |
14.7% |
Taliadau Bonws
Gall y Prif Gwnstabl ddyfarnu bonysau am waith achlysurol o natur 'arbennig o heriol', 'annymunol' neu 'bwysig'. Mae'r taliadau bonws hyn yn drethadwy ac yn amhensiynadwy, a gellir eu dyrannu yn ôl disgresiwn yr Arweinydd Gwasanaeth neu Bennaeth Adrannol. Gellir dyrannu dyfarniadau dros £50 i unigolion sy'n bodloni'r meini prawf a bydd y taliadau hyn yn cael eu prosesu gan Banel Dyfarnu.
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cafodd 108 o unigolion daliadau bonws, o'i gymharu â 36 yn 2023/2024, 29 yn 2022-23, 19 yn 2021/2022, 44 yn 2020/2021.
Y Cyflog Bonws i ferched ydy:
|
2024-2025 (108) |
2023-2024 (36) |
2022-2023 (29) |
2021-2022 (19) |
2020-2021 (44) |
Cymedr |
54.0% yn is na dynion |
25.8% yn is na dynion |
81.3% yn is na dynion |
69.6% yn is na dynion |
4.9% yn is na dynion |
Canolrif |
75.0% yn is na dynion |
0.0% yn is na dynion |
90.0% yn is na dynion |
75.0% yn is na dynion |
-112.5% yn is na dynion |
Benyw |
3.6% dderbyniodd fonws |
0.6% dderbyniodd fonws |
1.2% dderbyniodd fonws |
0.5% dderbyniodd fonws |
1.2% dderbyniodd fonws |
Gwryw |
3.1% dderbyniodd fonws |
1.8% dderbyniodd fonws |
0.8% dderbyniodd fonws |
0.9% dderbyniodd fonws |
1.9% dderbyniodd fonws |
Bwlch cyflog ar Sail Ethnigrwydd
Mae'r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn wahanol i'r bwlch cyflog cyfartal. Mae'n dangos y gwahaniaeth yng nghyfradd gyfartalog yr awr rhwng gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a gweithwyr Gwyn. Wrth ystyried Bwlch Cyflog ar Sail Ethnigrwydd Heddlu Gogledd Cymru, mae'n ddefnyddiol deall y ffactorau canlynol. Gyda'i gilydd, maent yn cael effaith cyffredinol ar waethygu unrhyw fwlch cyflog:
Cafwyd y ffigyrau isod o ddata a gafwyd ar y “dyddiad ciplun”, sef 31 Mawrth 2024 ar gyfer blwyddyn adrodd 2024-2025.
Y Bwlch Cyflog ar Sail Ethnigrwydd cymedrig a chanolrifol (gweithlu cyfan)
Mae'r bwlch cyflog cymedrig ar gyfer 2024-25 yn dangos bod gan weithwyr B.A.M.E. fwlch cyflog -5.1%, o'i gymharu â -3.5% yn 2023-2024. Mae'r canolrif bwlch cyflog ar gyfer 2024-25 yn dangos bod gan weithwyr B.A.M.E. fwlch cyflog -9.2%, o'i gymharu â -10.5% yn 2023-2024. Nid yw'r ffigwr Bwlch Cyflog negyddol yn dangos bwlch ac mae gweithwyr B.A.M.E yn cael cyflog fesul awr uwch o gymharu â gweithwyr Gwyn. Fel mae'r tabl isod yn dangos, canfyddir bod bylchau cyflog yn bodoli ar gyfer grwpiau ethnig penodol. Eglurir hyn drwy'r ffaith bod grwpiau ethnig yn cael eu tangynrychioli'n anghymesur yn y gweithlu.
Grwpiau ethnig – o gymharu â'r grŵp 'Gwyn' perthnasol (y gweithlu cyfan):
|
2024-2025 |
2023-2024 |
||
Cymedr |
Canolrif |
Cymedr |
Canolrif |
|
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig |
-14.0% |
-13.6% |
-16.0% |
-15.9% |
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig |
9.0% |
4.0% |
12.0% |
11.2% |
Grwpiau ethnig Cymysg/Lluosog |
-7.0% |
-11.4% |
-4.0% |
-10.5% |
Grwpiau ethnig eraill |
-10.0% |
-13.6% |
-10.0% |
-15.9% |
Y Bwlch Bonws Cyflog ar Sail Ethnigrwydd (gweithlu cyfan)
Mae'r bwlch bonws ar gyfer y gweithlu cyfan yn 2024-2025 yn dangos bod 0.0% o weithwyr B.A.M.E. wedi derbyn bonws (9.1% yn 2023-2024), o'i gymharu â 3.4% o weithwyr Gwyn (1.1% yn 2023-2024). Y bwlch cyflog bonws cymedrig ydy 24.3% (61.3% yn 2023-2024) a'r bwlch cyflog bonws canolrif ydy 0.0% (58.3% yn 2023-2024).
Bylchau cyfradd awr: |
|
Bylchau Cyflog Bonws: |
|
Cyfran y grŵp dderbyniodd fonws: |
||||||
|
2024-2025 |
2023-2024 |
|
|
2024-2025 |
2023-2024 |
|
|
2024-2025 |
2023-2024 |
Cymedr |
-5.1% |
-3.5% |
|
Cymedr |
24.3% |
61.3% |
|
Gwyn |
3.4% |
1.1% |
Canolrif |
-9.2% |
-10.5% |
|
Canolrif |
0.0% |
58.3% |
|
B.A.M.E. |
0.0% |
9.1% |
Chwarteli (gweithlu cyfan)
Mae cymharu canlyniadau fesul chwartel yn rhoi arwydd o ddosbarthiad grwpiau ethnig rhwng bandiau cyflog. Mae cyfran ychydig yn uwch o weithwyr B.A.M.E. yn y chwartel uwch ar gyfer cyflog fesul awr 1.32%, nag yn y chwartel is ar gyfer cyflog fesul awr 1.05%.
Cyfran o weithwyr Gwyn a B.A.M.E ymhob band chwartel cyflog (gweithlu cyfan):
|
Chwartel isaf |
Chwartel canol isaf |
Chwartel canol uchaf |
Chwartel uchaf |
Gwyn |
98.95% |
99.47% |
98.81% |
98.68% |
B.A.M.E. |
1.05% |
0.53% |
1.19% |
1.32% |
O'i gymharu â ffigyrau 2023-2024:
|
Chwartel isaf |
Chwartel canol isaf |
Chwartel canol uchaf |
Chwartel uchaf |
Gwyn |
98.91% |
99.32% |
99.18% |
98.64% |
B.A.M.E. |
1.09% |
0.68% |
0.82% |
1.36% |
Yr hyn fydd HGC yn parhau i'w wneud er mwyn ymdrin â'r Bylchau Cyflog hyn
Mae gan HGC Fwrdd Iechyd, Lles, Cydnabyddiaeth ac Ymgysylltiad penodol sydd wedi'i sefydlu er mwyn cefnogi gweithgaredd yn y maes hwn. Mae'r Bwrdd yn goruchwylio Cynllun Gweithredu Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd ac ar Sail Ethnigrwydd penodol.
Mae'r Cynllun yn canolbwyntio ar chwe thema allweddol:
Mae gan bob thema set o gamau gweithredu bydd yn parhau â'n hymdrechion er mwyn lleihau unrhyw fylchau cyflog, ac er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd ac ethnigrwydd yn gyffredinol.
Casgliad
Cyfrifwyd y ffigyrau Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd gan ddefnyddio dulliau safonol yn unol â'r Rheoliadau (Gwybodaeth Bwlch Cyflog ar Sail Rhywedd) 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010. Gellir gweld yn barod fod y gwaith a ymgymerwyd mewn blynyddoedd diweddar wedi cael effaith gadarnhaol ar recriwtio swyddogion benywaidd i HGC.
Canfu’r adroddiad, o gymharu â llynedd, fod y bwlch cyflog ar sail rhywedd o ran:
O'i gymharu â llynedd, mae'r bwlch cyflog ar sail rhywedd o ran:
Mae'r ffigyrau Bwlch Cyflog Ethnigrwydd a nodir uchod yn cael eu llunio yn dilyn y cyfarwyddyd ar gyfer cyflogwyr, wedi'i ddarparu gan GOV.UK.
Mae'r adroddiad yn canfod bod y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd cymedrig o ran:
Mae'r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd canolrifol o ran:
Enw: Seb Phillips
Swydd: Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, Heddlu Gogledd Cymru.