Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben penodol defnyddio Adnabod Wynebau Byw ydy:
Cynorthwyo plismona adnabod unigolion sydd yn eisiau am droseddau blaenoriaethol, cynorthwyo gorfodi'r gyfraith gan gynnwys gweinyddu cyfiawnder (drwy arestio unigolion sydd yn eisiau ar warant neu'n anghyfreithlon ar raddfa fawr/adalwad i'r carchar), a sicrhau a hyrwyddo diogelu plant a phobl fregus sydd mewn perygl.
Defnydd yn y dyfodol:
Nid oes unrhyw ddefnydd wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol agos.
Defnydd blaenorol:
Defnyddiodd Heddlu Gogledd Cymru dechnoleg Adnabod Wynebau Byw yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, 7 Medi 2024.
Roedd y defnydd hwn yn rhan o drefniadau plismona ar ddiwrnod gêm ar gyfer y gêm rhwng CCPD Wrecsam a Thref Amwythig yng Nghynghrair Un.
Defnyddiwyd camerâu er mwyn helpu swyddogion adnabod unigolion oedd yn eisiau am droseddau blaenoriaethol, yn eisiau ar warant, rhai oedd â’u traed yn rhydd, a rhai oedd yn eisiau ar adalwad i’r carchar.
Ceisiodd hyn hefyd hyrwyddo diogelu pobl fregus.
Cafodd 34,900 o wynebau eu sganio i gyd, hefo 11 rhybudd yn cael eu creu ac ymholiadau dilynol gan swyddogion.
Arestiwyd neb.
Ni chadwyd data biometreg, neu luniau o’r wynebau gafodd eu sganio, gan Heddlu Gogledd Cymru.
Bu Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio meddalwedd Adnabod Wyneb ym Mhorthladd Caergybi ar 21 a 22 Mai 2024 fel modd o adnabod pobl sydd ar warant ac ar goll o’u cartrefi ac yn teithio drwy’r porthladd.
Mae’r rhestr chwilio yn cynnwys 1822 o unigolion, a sganiwyd 6259 o wynebau, heb rhybuddion. Nid oes unrhyw ddata biometreg neu ddelweddau o’r wynebau a sganiwyd wedi cael eu cadw gan Heddlu Gogledd Cymru.
A ydy pob proffil wyneb sy'n cael eu dal yn cael eu cadw am unrhyw gyfnod o amser? A ellir ond adnabod pobl o dan amheuaeth ac yn eisiau, neu a ydyw'n defnyddio ffynonellau eraill o broffiliau wyneb yn ogystal â chofnodion yr heddlu?
Os nad ydych ar restr gwylio, ni fyddwn byth yn cadw eich data biometreg. Mae'n cael ei ddileu ar unwaith ac yn awtomatig. Yn ogystal, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn dileu pob rhybudd o fewn 24 awr ar ddiwedd y gweithredu. Mae'r ffilm CCC a ddefnyddir gan y dechnoleg yn cael ei gofnodi a'i gadw am hyd at 31 diwrnod. Os oes rhybudd anghywir, bydd y wybodaeth a'r ddelwedd yn cael eu dileu ar unwaith.
Beth ydy'r rhestr o wynebau sy'n cael eu defnyddio er mwyn cymharu yn ystod y lleoli?
Mae hon yn rhestr wylio ar gyfer defnydd sy'n cynnwys manylion pobl sy'n eisiau am droseddau, yn amodol ar orchmynion llys neu sy'n peri risg i'r cyhoedd. Ni allwch gael eich paru oni bai eich bod ar y rhestr wylio. Mae Heddlu De Cymru yn darparu'r dechnoleg ar gyfer y defnydd hwn ac ni fu un arestiad anghywir oherwydd iddynt ddefnyddio adnabod wynebau. Pan fydd y dechnoleg yn paru, mae rhybudd yn cael ei greu.
Mae unrhyw rybuddion yn cael eu gwirio gan weithredwr cyn ymyrraeth gan swyddogion ar lawr gwlad. Bydd y system ond yn ceisio paru'r unigolion hynny a roddir ar y rhestr wylio. Mae pob rhestr wylio yn unigryw i'r digwyddiad hwnnw lle mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio.
Beth a olygir hefo dileu delweddau "dim rhybudd" a data biometreg ar unwaith os cedwir lluniau CCC am 31 diwrnod?
Mae hyn yn ymwneud â data biometreg ar gyfer pobl nad ydynt yn achosi rhybudd. Mae'r data biometreg yn cael ei ddileu'n awtomatig ac ar unwaith. Ar gyfer y delweddau hynny sy'n achosi rhybudd, caiff y rhain eu dileu o fewn 24 awr.
Beth am hawliau preifatrwydd a chyfreithlondeb technoleg adnabod wynebau byw?
Mae defnyddio technoleg adnabod wynebau byw gan Heddlu Gogledd Cymru wedi'i gynllunio i fod yn gyfrifol, yn gymesur ac yn deg. Ei nod ydy cadw'r cyhoedd yn ddiogel, nodi troseddwyr difrifol a gwarchod pobl fregus. Mae Heddlu Gogledd Cymru'n defnyddio tryloywder sy'n dangos effeithiolrwydd, cymesuredd a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau byw.
A allaf optio allan os ydw i'n ddinesydd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith?
Dim ond pobl sydd yn eisiau neu o dan amheuaeth fydd ar restr gwylio awdurdodedig, ac ni allant optio allan. Os ydych yn dymuno osgoi defnyddio yn gorfforol, nid yw hyn yn sail ar ei ben ei hun i ni gael unrhyw ryngweithio â chi. Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau a lleoliadau defnydd o flaen llaw, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
A fydd unrhyw ddata yn cael ei gadw ar ffeil. Os felly, sut ydym yn gwneud cais am fynediad at y data hwnnw?
Mae delweddau/data biometreg y bobl hynny nad ydynt yn achosi rhybudd yn cael eu dileu'n awtomatig ac ar unwaith. Caiff delweddau sy'n achosi rhybudd eu dileu yn syth ar ôl eu defnyddio, neu o fewn 24 awr. Mae'r ffilm CCC a ddefnyddir gan y dechnoleg adnabod wynebau byw yn cael ei chofnodi a'i chadw am hyd at 31 diwrnod.
A ydy'r dechnoleg adnabod wynebau byw yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd?
Yn hanesyddol bu problemau hefo Technoleg Adnabod Wynebau a thuedd rhywedd ac ethnig posibl. Wrth i'r dechnoleg ddatblygu dros amser mae'r duedd hon wedi lleihau'n fawr.
Yn dilyn gwaith gan Heddlu De Cymru, y Met, a'r Labordy Ffiseg Cenedlaethol, cafwyd adroddiad sy'n rhoi dadansoddiad teg a gwyddonol wedi'i ategu gan dystiolaeth, o gyflawniad yr algorithm adnabod wynebau a ddefnyddir. O ganlyniad:
A ydy'r data yn cael ei drosglwyddo i bartïon eraill?
Mae'r holl ffilmiau CCC sy'n cael eu creu o ddefnyddio CCC symudol yn cael eu dileu o fewn 31 diwrnod, yn yr enghreifftiau canlynol pan gaiff ei gadw:
A allwch chi ddweud wrthym ni pa ganran o wynebau sy'n cael eu hadnabod gan y system? Hefyd, pa gronfa ddata wynebau rydych chi'n ei defnyddio er mwyn cymharu delweddau yn eu herbyn?
Gall y ganran hon amrywio ac mae'n cael ei effeithio gan sawl ffactor gan gynnwys cwmpas y rhestr wylio a faint o bobl sy'n mynd trwy'r parth adnabod ar gyfer y camera. Bydd y gronfa ddata a ddefnyddir yn cynnwys delweddau a ddelir yn gyfreithlon sydd eisoes ym meddiant Heddlu Gogledd Cymru, o'n system rheoli cofnodion bresennol, neu gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu.