Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy riportio trosedd casineb, efallai y gallwch ei atal rhag digwydd eto.
A yw’n teimlo y gallai’r sefyllfa waethygu neu droi’n dreisgar yn gyflym iawn? A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes angen cefnogaeth arnoch ar unwaith? Os felly, ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Gwasanaeth lleol a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr yw Report It Cymru.
Os byddai’n well gennych siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus yn unrhyw un o’n gorsafoedd heddlu.
Rydym yn deall nad ydych efallai’n barod i siarad â ni am yr hyn sydd wedi digwydd. Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau isod gynnig cefnogaeth, cyngor a ffyrdd i riportio’r digwyddiad heb orfod siarad yn uniongyrchol â’r heddlu.
Gwybodaeth Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth Cymru
Cymorth os ydych ar y sbectrwm.
Hafan Cymru
Helpu pobl i fyw’n dda.
Age Cymru
Cefnogaeth ar gyfer dinasyddion hŷn.
Crimestoppers
Elusen genedlaethol sydd â llinell gymorth am ddim ar gyfer riportio troseddau’n ddienw.
Tell MAMA
Prosiect cenedlaethol sy’n cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslimiaeth a monitro digwyddiadau gwrth-Fwslimiaeth.
Community Security Trust (CST)
Elusen sy’n diogelu Iddewon Prydeinig rhag digwyddiadau gwrth-semitiaeth a bygythiadau cysylltiedig.
Galop
Elusen genedlaethol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i aelodau o’r gymuned LHDT.
True Vision
Cynllun sy’n eiddo i national police chief's council sy’n darparu cyngor troseddau casineb a chyfleuster adrodd ar-lein.