Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gan weithio gyda sefydliadau eraill, mae’r heddlu’n amddiffyn pobl agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio gan eithafwyr drwy un o raglenni’r Swyddfa Gartref a elwir yn Prevent.
Rôl ein swyddogion Prevent yw helpu pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio i symud oddi wrth eithafiaeth. Gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod rhywun yn agos i fynegi safbwyntiau eithafol neu gasineb, a allai arwain at iddynt niweidio eu hunain neu eraill. Rydym yma i wrando a chynnig cymorth a chyngor.
Gan weithio gyda phartneriaid, mae ein swyddogion Prevent wedi helpu llawer o bobl i symud oddi wrth eithafiaeth a chanfod cyfeiriad newydd drwy roi’r pecyn cefnogaeth cywir ar waith, a allai fod gan feddyg, drwy ysgol, neu gyda grŵp cymunedol neu fentor lleol.
Rydym yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid, sy’n cynnwys:
Mae’r siwrnai i gael eich radicaleiddio yn wahanol i bawb a gallai fod yna nifer o resymau pam fod rhywun mewn perygl o fynd ar y siwrnai honno. Gall radicaleiddio ddigwydd yn gyflym iawn, neu dros gyfnod hir o amser.
Yn bwysicach nag unrhyw un arwydd penodol yw’r teimlad nad yw pethau’n hollol fel y dylent fod gyda’r person yr ydych yn poeni yn ei gylch. Gallech sylwi ar un arwydd neu gyfuniad o arwyddion sydd fel petaent yn cynyddu mewn dwyster.
Fodd bynnag, mae rhai ymddygiadau y gallwch gadw llygad allan amdanynt y byddwn yn aml yn eu gweld pan fydd rhywun yn cael ei dywys i lawr llwybr eithafiaeth.
Ewch i ACT Early i ddysgu mwy am yr arwyddion a allai awgrymu bod rhywun mewn perygl o gael ei radicaleiddio.
Chi sydd yn y sefyllfa orau i sylwi bod rhywbeth ddim fel y dylai fod gyda rhywun sy’n agos i chi. Felly dilynwch eich greddf a soniwch am eich pryderon wrthym yn gyfrinachol.
Y cynharaf y byddwch yn sôn wrthym am eich pryderon, y cyflymaf y gallwn sicrhau’r cymorth sydd ei angen i’r unigolyn rydych chi’n pryderu yn ei gylch er mwyn ei ddiogelu rhag cael ei arwain i lawr llwybr amhriodol a chael ei radicaleiddio. Rydym yma i helpu. Ni fyddwch yn gwastraffu ein hamser.
Yn aml nid oes angen sylw parhaus gan yr heddlu a gallai’r gefnogaeth gywir gael ei darparu gan athrawon, gweithwyr iechyd neu gymdeithasol, neu fentoriaid arbenigol.
I ganfod mwy am sut i helpu rhywun sy’n agos i chi ewch i actearly.uk sy’n adnodd defnyddiol gyda chyngor, syniadau ymarferol ar sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun rydych yn pryderu yn ei gylch, cyngor diogelwch ar-lein a storïau go iawn.
Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999.
Os byddwch yn gweld deunydd ar-lein sy’n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth, gallwch ei riportio ar-lein.
Bydd unrhyw un sy’n cael ei atgyfeirio at Prevent yn cael ei asesu gan yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys yr heddlu, i weld a ydynt yn addas ar gyfer Channel, cynllun cefnogaeth arbenigol Prevent.
Rhaglen ymyrraeth gynnar wirfoddol a chyfrinachol yw Channel sy’n cefnogi pobl a allai fod mewn perygl o gael eu denu at derfysgaeth.
Er mwyn helpu i benderfynu a yw rhywun yn addas ar gyfer cefnogaeth drwy Channel, cadeirir panel Channel gan yr awdurdod lleol, sy’n cyfarfod â’r heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid eraill i drafod yr unigolyn yr ydych chi’n pryderu yn ei gylch, a phenderfynu pa becyn cefnogaeth wedi’i deilwra y gellir ei gynnig iddo ef neu hi.
Os penderfynir nad yw cefnogaeth Channel yn briodol - er enghraifft, os yw’r unigolyn mewn perygl o niwed ond nad yw’n cael ei radicaleiddio - efallai y gellir ei gyfeirio at wasanaethau diogelu eraill am gymorth.
Mae cefnogaeth Channel yn cynnwys pethau megis mentora diwinyddol neu ideolegol, cymorth gydag iechyd meddwl, materion camddefnydd cyffuriau neu alcohol, yn ogystal â chyngor ynglŷn ag addysg neu yrfa. Nid yw cymryd rhan yn rhaglen Channel i’w weld ar gofnod troseddol rhywun, ac ni fydd yn cael effaith negyddol ar ragolygon o ran addysg a gyrfa yn y dyfodol. Mae’n golygu cael y math cywir o gymorth i’r unigolyn sydd angen cefnogaeth i symud oddi wrth eithafiaeth.