Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi mewn trallod difrifol ac yn ystyried niweidio eich hun, ffoniwch 999 ar unwaith. Dylech hefyd ffonio 999 os ydych yn poeni am rywun arall sydd wedi dioddef y drosedd hon.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gymorth ar gyfer meddyliau hunanladdol yn y GIG.
‘Blacmel rhywiol’ yw’r enw byr ar ‘cribddeiliaeth rywiol â chymhelliant ariannol’. Mae’n fath o flacmel ar-lein lle mae troseddwyr yn bygwth rhannu lluniau, fideos, neu wybodaeth rhywiol amdanoch chi. Efallai eu bod yn ceisio cymryd arian oddi wrthych neu eich gorfodi i wneud rhywbeth arall nad ydych eisiau ei wneud.
Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr blacmel rhywiol. Fodd bynnag, pobl ifanc rhwng 15 a 17 oed, ac oedolion o dan 30 oed sydd mewn mwyaf o berygl yn aml.
Gall blacmel rhywiol gael ei gyflawni gan unigolion, ond mae gangiau troseddau cyfundrefnol y tu ôl iddo fel arfer.
Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl trwy apiau detio, cyfryngau cymdeithasol, gwe-gamerâu, neu wefannau pornograffi. Efallai y byddant yn defnyddio hunaniaeth ffug i fod yn ffrind i chi ar-lein. Os yw person rydych newydd gyfarfod ag ef/hi ar-lein yn sgwrsio â chi mewn ffordd rywiol, neu’n gofyn am ddelweddau rhywiol, gallai fod yn ymgais i gyflawni blacmel rhywiol.
Dylech fod yn wyliadwrus os yw rhywun rydych wedi cwrdd â nhw ar-lein:
Gall ymdrechion i gyflawni blacmel rhywiol ddigwydd yn gyflym iawn, neu gallant ddigwydd dros gyfnod hir. Ni ddylech fyth rannu delweddau rhywiol neu wybodaeth amdanoch chi’ch hun os nad ydych yn gyfforddus yn gwneud hynny.
Os ydych yn sgwrsio â phobl newydd ar-lein:
Os ydych yn ddioddefwr blacmel rhywiol, nid eich bai chi ydyw. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau cyfryngau cymdeithasol reolau yn erbyn rhannu cynnwys personol heb ganiatâd. Dylech allu cael gwared ar y deunydd.
Os ydych chi wedi talu’r person, ystyriwch ddweud wrth eich banc. Efallai na fydd yn gallu cael unrhyw arian yn ôl ond mae’n ein helpu ni a’r banciau i wybod ei fod wedi digwydd.
Rydym yn deall y gallai fod yn anodd rhoi gwybod i ni am y math yma o drosedd. Rydym yma i wrando a’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Gallwch roi gwybod i ni am gamddefnydd delweddau personol:
Mae Revenge Porn Online yn rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr sy’n byw yn y DU.
Offeryn am ddim yw Stop NCII (Cam-ddefnyddio Delweddau Personol Anghydsyniol) i helpu i ganfod a dileu delweddau rhag cael eu rhannu ar-lein.
Mae’r Samariaid yn wasanaeth gwrando cyfrinachol am ddim ar gyfer unrhyw fater.
Mae Get safe online yn darparu gwybodaeth ffeithiol a hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.
Mae Report Remove yn eich galluogi i adrodd yn gyfrinachol am ddelweddau a fideos rhywiol ohonoch chi’ch hun a’u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
Mae Childline yn rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i bobl ifanc dan 19 oed.
Elusen iechyd meddwl yw Young Minds ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chymorth negeseuon testun 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae Adran Addysg Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn rhoi cyngor i rieni, plant a phobl ifanc ar gadw’n ddiogel rhag cam-drin rhywiol a meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Gall y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) helpu os ydych wedi bod yn ddioddefwr gwe-rwydo neu hacio, neu os oes angen cyngor arnoch ar ddiogelu eich data ar-lein.
Gall Action Fraud – Romance Fraud helpu os ydych yn meddwl bod partner y gwnaethoch gwrdd ag ef/hi ar-lein yn ceisio cael arian gennych ond nad yw’n eich bygwth nac yn eich cribddeilio. Gelwir hyn yn ‘dwyll rhamant’.