Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth Rheolau Arfau Tanio (Diwygio) 2018 i rym ar 16 Hydref 2018.
Mae’n ofynnol i ddeiliaid tystysgrif arf tanio a/neu dystysgrif dryll hysbysu’r Prif Swyddog Heddlu a roddodd y dystysgrif cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond o fewn 7 diwrnod fan bellaf, am y canlynol:
Rhaid i ddeiliaid y dystysgrif hon hysbysu’r Prif Swyddog Heddlu a roddodd y dystysgrif cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond o fewn 7 diwrnod fan bellaf fod y dystysgrif wedi’i dwyn, wedi’i cholli neu wedi’i dinistrio ym Mhrydain Fawr a/neu fod unrhyw arfau tanio wedi’u dwyn, wedi’u colli, wedi’i dadactifadu neu wedi’u dinistrio a/neu fod unrhyw fwledi neu getris y mae’r dystysgrif yn cyfeirio atynt wedi’u dwyn neu wedi’u colli.
Rhaid i ddeiliaid y dystysgrif hon hysbysu’r Prif Swyddog Heddlu a roddodd y dystysgrif cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond o fewn 7 diwrnod fan bellaf fod y dystysgrif wedi’i dwyn, wedi’i cholli neu wedi’i dinistrio ym Mhrydain Fawr a/neu fod unrhyw ynnau haels y mae’r dystysgrif yn cyfeirio atynt wedi’u dwyn, wedi’u colli, wedi’u dadactifadu neu wedi’u dinistrio.