Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynnwys:
1. Ynglŷn â ffugiadau dwfn |
2. Beth allwch chi ei wneud |
3. Riportio’r peth i'r heddlu |
4. Cymorth a chefnogaeth |
Rydyn ni’n deall y gallai'r hyn sydd wedi digwydd fod yn annifyr ichi neu efallai na fyddwch chi’n siŵr a ydy hyn yn rhywbeth y gallwch chi sôn wrthon ni amdano.
Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallwch eu riportio i'r heddlu a sut.
Mae'n anghyfreithlon rhannu neu fygwth rhannu lluniau neu fideos personol o rywun heb eu cydsyniad nhw ac mae hyn yn cynnwys delweddau ffug.
Os yw'n ymddangos bod y llun neu’r fideo ffug yn real ac yn debyg iawn i chi neu rywun rydych chi'n ei nabod gall hyn fod yn drosedd.
Gallwch riportio hyn i'r heddlu ar-lein.
Mae'n anghyfreithlon gwneud, rhannu a meddu ar ffotograffau anweddus a ffug-ffotograffau a/neu fideos, gan gynnwys ffugiadau dwfn, o rywun sydd dan 18 oed.
Does dim ots a yw'r person sy’n cael ei ddangos yn real ynteu wedi’i greu drwy ddefnyddio AI.
Mae'n anghyfreithlon i rywun weithredu mewn ffordd sy'n fygythiol ac wedi'i bwriadu i ysgogi casineb trwy negeseuon, lluniau a fideos.
Gallai hyn fod yn ddelwedd neu fideo sy'n cynnwys negeseuon sy'n galw am drais yn erbyn person neu grŵp penodol, neu ddelweddau a/neu fideos sy'n dangos trais yn erbyn rhywun.
Gallwch riportio hyn i'r heddlu ar-lein.
Mae defnyddio ffugiad dwfn i dwyllo, neu geisio twyllo, rhywun i drosglwyddo arian neu unrhyw beth arall yn dwyll.
Gallwch riportio hyn i Action Fraud, sef canolfan riportio genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Gall ffugiadau dwfn gael eu defnyddio i anfon negeseuon ffug, er enghraifft yn eich dangos chi neu rywun rydych chi'n ei nabod yn gwneud rhywbeth sydd heb ddigwydd mewn gwirionedd.
Os yw hyn yn cael ei wneud gan rywun sydd am achosi niwed, naill ai'n emosiynol neu'n gorfforol, gall fod yn anghyfreithlon.
Gallwch riportio hyn i'r heddlu ar-lein.
Os yw'r ffugiad dwfn yn hybu, yn gogoneddu neu'n helpu i gyflawni gweithredoedd terfysgol ac eithafiaeth dreisgar, dylech riportio hyn i'r heddlu.
Os byddwch chi'n dod ar draws cynnwys rydych chi'n credu ei fod yn derfysgol ei natur, riportiwch hyn yn ddienw yn www.gov.uk/report-terrorism neu drwy lawrlwytho'r ap iREPORTit ar siop apiau naill ai Apple neu Android.
Os oes rhywun yn gwneud rhywbeth dro ar ôl tro (gan gynnwys defnyddio ffugiadau dwfn) sy'n gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus, dan fygythiad neu'n anniogel, yna gallwch ei riportio.
Gallwch riportio hyn i'r heddlu ar-lein.
Os oes ffugiad dwfn yn cael ei ddefnyddio i’ch blacmelio chi neu rywun rydych chi'n ei nabod, mae hyn yn drosedd.
Gallwch riportio hyn i'r heddlu ar-lein.