Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n anghyfreithlon gyrru cerbyd ar ffordd neu mewn man cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti o leiaf.
Hyd yn oed os yw'r cerbyd ei hun wedi'i yswirio, os nad oes gennych chithau’r yswiriant cywir i'w yrru, fe ellid barnu eich bod yn gyrru heb yswiriant ac fe allech gael eich cosbi.
Bydd angen i chi hefyd wirio a yw eich yswiriant yn eich diogelu ar gyfer y defnydd cywir. Os ydych yn defnyddio’ch cerbyd at ddibenion busnes, ni fydd hyn yn cael ei gynnwys yn awtomatig.
Nid pob polisi yswiriant sy’n adnewyddu'n awtomatig, felly gwiriwch fanylion eich polisi chi bob amser a phryd y daw i ben.
Gallech gael cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb ar eich trwydded os cewch eich dal yn gyrru cerbyd nad ydych wedi'ch yswirio i'w yrru.
Os aiff yr achos i'r llys, gallech gael dirwy ddiderfyn a chael eich anghymhwyso rhag gyrru.
Mae gan yr heddlu bŵer hefyd i atafaelu cerbyd, ac mewn rhai achosion, i ddinistrio cerbyd os yw'n cael ei yrru heb yswiriant.
Os yw’r cerbyd yn cael ei gadw ar dir cyhoeddus, mae'r gyfraith yn gofyn ei fod yn cael ei yswirio'n barhaus. Os nad ydych yn defnyddio'ch car, a'i fod yn cael ei gadw ar dir preifat, gallwch ddweud wrth y DVLA fod y car oddi ar y ffordd, drwy gyfrwng Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol (SORN).
Mae Ymgyrch Tutelage yn fenter blismona genedlaethol sy'n gweithio i leihau lefelau gyrru heb yswiriant ar y ffyrdd. Rhagor o wybodaeth am yrru Ymgyrch Tutelage.