Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y terfyn alcohol cyfreithlon ar gyfer gyrru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 80 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed neu 35 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o anadl. Yn yr Alban y terfyn yw 50 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed neu 22 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl.
Does dim modd gwybod faint y gallwch ei yfed ac aros dan y terfyn, gan y gall ddibynnu ar eich pwysau, eich oed, eich metabolaeth, faint o fwyd rydych chi wedi'i fwyta a ffactorau eraill.
Mae'n amhosibl cael alcohol allan o'ch system yn gyflym: mae bob amser yn cymryd amser. Gall cawod, cwpanaid o goffi neu ffyrdd eraill o 'sobri' wneud ichi deimlo'n well ond fyddan nhw ddim yn tynnu'r alcohol o'ch system.
Os ydych chi wedi bod allan yn yfed, efallai y bydd alcohol yn dal i effeithio arnoch chi drannoeth ac fe allech chi golli’ch trwydded os byddwch yn gyrru ac yn dal i fod dros y terfyn cyfreithiol.
Mae alcohol yn effeithio ar bawb yn wahanol a gall unrhyw swm amharu ar eich gallu i yrru. Yr unig ddewis diogel yw osgoi alcohol yn llwyr os ydych chi'n gyrru gan y gallai hyd yn oed 'un ddiod fach' eich rhoi chi dros y terfyn.
Os ydych chi'n gyrru, peidiwch ag yfed unrhyw alcohol o gwbl.
Mae'n drosedd gyrru gydag unrhyw un o'r 17 o gyffuriau rheoledig uwchben lefel benodedig yn eich gwaed. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau sydd wedi’u rhagnodi’n gyfreithiol.
Mae'r terfyn sydd wedi’i bennu ar gyfer pob cyffur yn wahanol, ac ar gyfer cyffuriau anghyfreithlon mae'r terfynau’n eithriadol o isel. Maen nhw heb gael eu gosod ar sero er mwyn caniatáu ar gyfer amlygiad damweiniol (e.e. drwy ysmygu goddefol).
Dylech bob amser holi’ch meddyg neu'ch fferyllydd os nad ydych yn siŵr a fydd eich presgripsiwn neu’ch meddyginiaeth dros y cownter yn effeithio ar eich gallu i yrru.
Y risg fwyaf a gymerwch chi wrth yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yw'r risg o achosi gwrthdrawiad.
Mae gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau yn eithriadol o beryglus a gall effeithio ar eich gyrru mewn sawl ffordd, fel:
Gall alcohol a chyffuriau greu hyder ffug hefyd, sy’n gallu arwain at fwy o ymddygiad cymryd risg, sy'n peryglu eich bywyd chi a bywydau pobl eraill.
Gall yr heddlu eich stopio unrhyw bryd a gofyn ichi gymryd prawf anadl os:
Os gwrthodwch chi gymryd prawf anadl, neu fethu â rhoi sampl o anadl ac nad oes gennych 'esgus rhesymol', gallwch gael eich arestio. Gallai esgus rhesymol fod yn anhwylder corfforol neu feddyliol gwirioneddol sy'n eich atal rhag rhoi sampl; os felly, efallai y bydd gofyn ichi gael prawf gwaed.
Mae'r prawf anadl yn rhoi canlyniad ar unwaith. Os yw'n dangos nad ydych chi dros y terfyn yfed a gyrru, efallai y cewch chi fynd.
Os byddwch yn methu'r prawf anadl, byddwch yn cael eich cludo i orsaf heddlu ac yn cael prawf anadl terfynol. Os yw'n gadarnhaol, fe gewch eich cyhuddo.
Gall yr heddlu eich stopio a chynnal prawf sgrinio wrth ochr y ffordd neu brawf nam golwg, a gall y ddau arwain at eich arestio:
Gall swyddogion brofi am ganabis a chocên wrth ymyl y ffordd, a sgrinio am gyffuriau eraill – gan gynnwys ecstasi, LSD, cetamin a heroin – mewn gorsaf heddlu.
Hyd yn oed os byddwch yn pasio'r prawf wrth ochr y ffordd, efallai y cewch eich arestio o hyd os yw'r heddlu'n amau bod cyffuriau'n amharu ar eich gyrru a gellir mynd â chi i orsaf heddlu i gael profion pellach.
Os gwelir eich bod chi dros y terfyn yfed a gyrru, a/neu’n gyrru tra bod cyffuriau'n amharu arnoch, gallwch gael:
Mae’r problemau eraill y gallech eu hwynebu yn cynnwys:
Os bydd gyrrwr yn lladd rhywun tra bo dan ddylanwad alcohol, gall gael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad diod neu gyffuriau (Adran 3A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adran 3)).
Y gosb uchaf yw 14 mlynedd o garchar os cyflawnwyd y drosedd cyn 28 Mehefin 2022. Os cyflawnwyd y drosedd ar neu ar ôl 28 Mehefin 2022, y gosb uchaf yw carchar am oes.