Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall materion cymdogion sy’n parcio yn eich gofod neu ar draws eich dreif, a phobl yn gadael cerbydau ar y stryd ymddangos fel mater i’r heddlu. Fodd bynnag, y pwynt cyswllt cyntaf yn aml iawn yw eich awdurdod lleol.
Yma gallwch ddysgu beth sy’n gyfystyr â pharcio niwsans a beth i’w wneud os yw’n effeithio arnoch chi.
Cerbyd sydd wedi eu gadael yw un sydd heb gael ei symud neu na roddwyd sylw iddo ers amser hir. Efallai y bydd difrod arno a fyddai’n awgrymu gwrthdrawiad neu arwyddion bod y cerbyd wedi cael ei ddwyn, megis:
Gall cerbydau sydd wedi eu gadael achosi niwsans drwy greu rhwystr ar ffyrdd, rhwystro traffig neu gerddwyr. Gall gweld car gyda difrod iddo neu un sy’n rhydu’n araf hefyd fod yn hagr yn eich cymuned, felly mae’n ddealladwy y gallech fod am ei symud.
Os ydych yn gwybod pwy yw perchennog y cerbyd, ein cyngor cyntaf fyddai i ofyn yn gwrtais iddynt ei symud. Wedi’r cyfan, efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn achosi problem.
Fodd bynnag, peidiwch â chymryd y gyfraith yn ei dwylo eich hun drwy ymyrryd, megis bygwth rhywun yn gorfforol neu geisio symud y cerbyd eich hun. Gallech waethygu’r sefyllfa neu hyd yn oed fod yn cyflawni trosedd eich hun.
Os dewch o hyd i un, riportiwch gerbyd sydd wedi eu gadael.
Os oes gofod parcio ar gael ar ffordd gyhoeddus, hyd yn oed os yw’n union y tu allan i’ch cartref, gall unrhyw un barcio yno. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn rhwystredig, yn arbennig os yw gofod parcio yn brin ar eich stryd.
Os oes rhywun wedi parcio yn eich gofod parcio dynodedig heb eich caniatâd, ein cyngor cyntaf bob amser yw ceisio datrys y broblem y mater yn heddychlon eich hun. Os na allwch ddod o hyd i’r gyrrwr er mwyn sgwrsio gydag ef neu hi, rhowch gynnig ar adael nodyn cwrtais ar ffenestr y cerbyd.
Os ydych yn rhentu eiddo sydd â gofod parcio, cysylltwch â phwy bynnag sy’n gyfrifol am eich adeilad, megis y rhydd-ddeiliad, y cyngor neu’r asiant rheoli.
Os bydd y broblem yn parhau, gallwch riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.
Os bydd rhywun yn parcio’i gerbyd ar eich dreif heb eich caniatâd, mae hyn yn anghydfod sifil ac nid yw’n fater y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch. Os yw’n digwydd dro ar ôl tro gyda’r un person/cerbyd efallai y byddwch am geisio cyngor gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu gyfreithiwr, ond byddem bob amser yn argymell eich bod yn cael gair cwrtais gyda’r gyrrwr yn gyntaf. Efallai y bu camddealltwriaeth syml.
Os oes rhywun wedi rhwystro eich dreif fel na allwch yrru i mewn, rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn rhwystredig iawn.
Os gallwch ddod o hyd i berchennog y cerbyd, byddem yn argymell eich bod yn gyntaf yn gofyn yn gwrtais iddo/iddi ei symud. Os na allwch ddod o hyd i’r perchennog, ceisiwch adael nodyn ar y ffenestr. Wedi’r cyfan, efallai nad yw’n sylweddoli bod problem wedi’i hachosi.
Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Os oes rhywun wedi rhwystro eich dreif sy’n eich atal rhag mynd â’ch cerbyd allan, efallai y gallwn helpu. Gallwch riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol ar-lein.
Os yw’r cerbyd wedi’i barcio:
Gallwch riportio’r rhain wrthym ar-lein
Os yw’r cerbyd wedi’i barcio:
Riportiwch ef wrth eich cyngor lleol.
Dysgu am gyfyngiadau parcio a diogelwch ar y ffordd tu allan i ysgolion