Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall galwadau ffôn a chnoc ddigroeso ar eich drws eich diflasu, ond gall galwadau ac ymweliadau parhaus neu faleisus fod yn amhleserus a hyd yn oed yn fygythiol. Isod fe welwch y mathau cyffredin o alwyr a beth allwch chi ei wneud yn eu cylch.
Galwadau ffôn na ofynnwyd amdanynt yw’r rhain gan gwmnïau neu bobl sy’n ceisio gwerthu rhywbeth i chi. Mae’n ofynnol i gwmnïau gael eich caniatâd cyn y gallant farchnata eu nwyddau a’u gwasanaethau i chi dros y ffôn neu drwy e-bost. Os nad oes ganddynt eich caniatâd ni ddylent fod y cysylltu â chi.
Gall galwadau ffôn niwsans gynnwys y galwr yn aros yn fud neu’n ffonio’n fwriadol pan ei fod yn gwybod eich bod yn debygol o fod yn cysgu. Mae’n brin i’r math hon o alwad ddigwydd dro ar ôl tro ond, os bydd, gallwch gymryd camau i’w atal (gweler isod).
Mae galwadau maleisus yn rhai sydd wedi’u targedu’n fwriadol at unigolyn a gallant gynnwys bygythiadau a blacmel. Mae gwneud galwad faleisus neu anweddus yn drosedd.
Mae twyllwyr hefyd yn defnyddio galwadau ffôn i geisio twyllo pobl i roi gwybodaeth bersonol werthfawr iddynt. Gelwir hyn yn ‘we-rwydo’. Maent naill ai’n gwerthu’r wybodaeth hon neu’n ei defnyddio eu hunain i gyflawni twyll megis dwyn hunaniaeth. Mae hyn hefyd yn drosedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau cyngor ar dwyll personol.
Gall cnocio digroeso wrth y drws gan bobl sy’n ceisio gwerthu cynnyrch i chi fod yn niwsans, yn arbennig os ydynt yn digwydd yn rheolaidd.
Weithiau bydd bwriadau’r ymwelwyr hyn yn dwyllodrus, boed hynny er mwyn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ffug neu er mwyn casglu gwybodaeth amdanoch chi neu’r eiddo. Mewn rhai achosion, gall twyllwyr hyd yn oed esgus eu bod yn gweithio i gwmni cyfleustodau a defnyddio’r esgus eu bod angen darllen y mesurydd er mwyn cael mynediad i’ch cartref.
I gael rhagor o wybodaeth am aros yn ddiogel, ewch i’n tudalennau cyngor ar dwyll personol.
Gall galwadau ac ymweliadau digroeso gan ddieithriad beri straen a bod yn niwsans, ond gall gormod o’r naill ddechrau gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich targedu yn eich cartref eich hun neu fod ag ofn clywed y ffôn yn canu. Nid oes yn rhaid iddi fod felly. Dilynwch y camau isod i gymryd rheolaeth dros pwy all gysylltu â chi, a sut gallant wneud hynny.
Ar y rhan fwyaf o ffonau modern gallwch rwystro rhifau penodol rhag eich ffonio neu’ch tecstio. Gwiriwch gyfarwyddiadau eich ffôn neu ffoniwch eich cwmni ffôn i gael cymorth.
Er mwyn helpu i atal galwadau niwsans neu faleisus, gallwch gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn. Gallech hefyd gysylltu â’ch cwmni ffôn, megis BT neu Virgin Media. Dylent allu awgrymu rhagor o ffyrdd i sgrinio a rhwystro galwadau sy’n dod i mewn.
Os ydych wedi cael eich bygwth neu wedi derbyn galwad ffôn anweddus, riportiwch ymddygiad gwrthgymdeithasol wrthym.
Dim ond ceisio gwerthu rhywbeth i chi y mae’r rhan fwyaf o’r rheini sy’n galw o ddrws i ddrws. Os nad ydych yn hoffi’r ffordd maen nhw’n siarad â chi neu’ch bod yn teimlo eu bod yn galw’n rhy aml, gofynnwch iddynt am fanylion eu cwmni a chwynwch.
Gallai hefyd fod yn werth gadael arwydd neu sticer wrth gloch eich drws neu’ch blwch llythyrau yn dweud ‘dim galwyr diwahoddiad, diolch’. Bydd hyn yn ddigon i atal y rhan fwyaf o werthwyr synhwyrol rhag galw.
Dylai unrhyw un sy’n galw wrth eich drws fod â rhyw fath o ddull adnabod. Mae gennych berffaith hawl i ofyn i weld hwn a gwneud nodyn o’r manylion.
Peidiwch byth â rhoi manylion banc neu bersonol i unrhyw un nad ydych yn siŵr pwy ydynt. Os na allwch fod yn sicr mai’r person y mae’n honni ydyw, gofynnwch iddo ef neu hi alw eto ar ddyddiad arall. Bydd hyn rhoi cyfle i chi gadarnhau pwy ydyw a hefyd efallai trefnu i berthynas neu ffrind i fod yno gyda chi.
Cofiwch, mae’n iawn i ddweud wrth ymwelwyr nad oes gennych ddiddordeb neu ofyn iddynt adael os nad ydych yn gyfforddus. Bydd ymwelwyr dilys yn deall yn iawn.
Yn olaf, os ydych yn amau twyll, riportiwch y twyll wrthym. Gall y dulliau mae’r twyllwyr yn eu defnyddio fod yn glyfar iawn – nid oes cywilydd bod wedi cael eich dal.