Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dydyn ni ddim bob amser yn gweld llygad yn llygad â’n cymdogion, ond yn y rhan fwyaf o achosion y ffordd orau i ddatrys problem yw siarad yn heddychlon gyda’ch gilydd. Fodd bynnag, os nad yw siarad wedi gweithio neu na allwch drafod y mater gyda’ch cymydog, gallwch weld sut y mae’n bosibl cael cymorth i ddatrys y mater.
O gofio ein bod yn byw mor agos i’n gilydd, nid yw’n syndod y gall anghydfodau gyda chymdogion waethygu’n gyflym. Mae’r rhai mwyaf cyffredin yn ymwneud â:
Mae’n bwysig nodi nad yw'r rhan fwyaf o’r achosion hyn yn faterion i’r heddlu, er bod rhai amgylchiadau pan ddylech gysylltu â ni. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag i bwy y dylech riportio materion wrthynt isod.
Gall anghytundebau rhwng cymdogion, waeth pa mor fychan ydynt, fudlosgi dros amser a gwneud niwed parhaol i’ch perthynas. Dyna pam y byddem bob amser yn eich annog i drafod y mater gyda’ch gilydd a chanfod datrysiadau cyfeillgar mor gynnar â phosibl.
Os na allwch ddatrys anghydfod gyda chymydog gall fod yn brofiad blinderus. Gall hyn effeithio’n ddifrifol ar ansawdd eich bywyd, yn arbennig os yw’n arwain at i chi deimlo dan fygythiad, wedi’ch ynysu neu mewn ofn yn eich cartref neu’ch cymuned eich hun. Os mai dyma’r achos, byddem yn eich cynghori’n gryf i gymryd y camau isod.
Ein cyngor cyntaf bob amser yw siarad â’ch cymydog os yw hynny’n bosibl er mwyn ceisio datrys y mater yn heddychlon. Os oes gennych wahaniaeth barn, ceisiwch weld a allwch ddod i gyfaddawd sy’n gweithio i’r ddau ohonoch, megis dim cerddoriaeth uchel ar ôl 11pm.
Rhagor o gyngor ar ddatrys anghydfodau rhwng cymdogion.
Os ydych chi’n byw mewn eiddo rhent neu dŷ cymdeithasol, efallai y bydd eich landlord neu gymdeithas tai yn gallu eich helpu.
Os yw’r broblem yn ymwneud â sŵn, megis parti swnllyd neu gŵn yn cyfarth, cysylltwch â’ch cyngor lleol gan nad yw hwn yn fater i’r heddlu.
Ar gyfer anghytundebau’n ymwneud â waliau, ffensys, coed neu wrychoedd ffin, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth i gael gwybodaeth a chefnogaeth am ddim.
Mewn rhai achosion efallai y byddwch hefyd am gysylltu â chyfreithiwr. Gallwch hefyd gyfeirio ar ganllawiau’r llywodraeth ar Ddeddf Waliau Cydrannol ac ati 1996.
I gael rhagor o wybodaeth am riportio anghydfod sifil, defnyddiwch ein gwasanaeth riportio anghydfod sifil ar-lein.
Os yw’r problemau wedi gwaethygu neu os ydych wedi cael eich bygwth, eich cam-drin yn eiriol neu eich targedu’n bersonol riportiwch y drosedd wrthym ni.
Byddai’n well gennym glywed gennych, a chanfod ffyrdd i’ch helpu, na dod i wybod eich bod yn dioddef yn dawel.