Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o fusnesau dilys yn gwerthu cynnyrch o ddrws-i-ddrws; mae angen i gwmnïau nwy, trydan a dŵr ymweld â chi i ddarllen mesuryddion; a bydd elusennau yn galw i ofyn am roddion. Ond gallai twyllwyr hefyd gnocio ar eich drws a’ch annog i roi eich arian neu i gael mynediad i’ch cartref er mwyn dwyn wrthoch chi.
Mae’r rhan fwyaf o sgamiau drws-i-ddrws yn cynnwys gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd naill ai heb eu hanfon neu sydd o ansawdd gwael iawn. Ni chewch werth am arian ac efallai y cewch fil am waith nad oeddech ei eisiau neu wedi cytuno iddo.
Mae rhai sgamwyr yn cynnal arolygon er mwyn cael eich manylion personol neu fel ffordd arall o werthu nwyddau neu wasanaethau i chi nad ydych chi eu heisiau neu eu hangen, fel gwaith ar y to neu patio newydd.
Weithiau mae gweithwyr diegwyddor yn dal i weithredu'n anghyfreithlon hyd yn oed wrth werthu cynnyrch dilys gan fusnes dilys. Os oes rhywun yn cnocio ar eich drws yn honni bod o gwmni penodol, gofynnwch am eu ID yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn hapus, peidiwch â gadael iddyn nhw ddod mewn.
Peidiwch byth â ffonio’r rhif ar eu cerdyn ID i weld beth yw beth. Gofynnwch i’r gwerthwr aros tu allan, caewch y drws a cheisiwch ddod o hyd i rif y cwmni ar y we. Os ydyn nhw’n gwmni go iawn, byddan nhw’n deall.
Yn y rhan fwyaf o achosion o dwyll gyda chwmnïau cludo, mae twyllwr yn ffonio eu dioddefwyr ac yn honni ei fod yn dod o'u banc, yr heddlu neu awdurdod gorfodi’r gyfraith arall. Maen nhw wedyn yn twyllo’r dioddefwr i ddatgelu ei rif PIN a manylion ei gerdyn credyd/debyd. Yn anffodus, y rhai sy’n cael eu twyllo amlaf gan dwyll cwmnïau cludo yw’r henoed.
Mae sgamiwr yn eich ffonio, yn honni ei fod o’ch banc neu’n swyddog heddlu. Maen nhw'n dweud wrthych naill ai:
Efallai y gofynnir i chi ffonio'ch banc gan ddefnyddio'r rhif ffôn ar gefn eich cerdyn. Mae hyn yn eich argyhoeddi bod yr alwad yn un go iawn. Ond mae'r sgamiwr wedi cadw'r llinell ar agor y pen yna, felly pan fyddwch chi'n gwneud yr alwad, heb yn wybod i chi, rydych chi'n cael eich cysylltu'n syth yn ôl atyn nhw neu eu ffrindiau.
Byddan nhw’n gofyn am naill ai eich PIN neu’n gofyn i chi ei nodi ar eich ffôn. Ni fydd unrhyw fanc neu wasanaeth dilys arall byth yn gofyn i chi am eich PIN.
Yna bydd y sgamiwr yn anfon cwmni cludo neu dacsi i gasglu’r cerdyn o’ch cartref. Efallai na fydd y gyrrwr hyd yn oed yn gwybod ei fod yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r sgam.
Unwaith mae’r sgamiwr wedi cael y cerdyn a’r PIN, gallan nhw wario eich arian.
Fersiwn wahanol o’r sgam hwn yw pan cysylltir â chi i ddweud bod aelod o staff llwgr yn eich banc, swyddfa bost neu swyddfa newid arian, ac mae angen eich help ar yr heddlu i'w hadnabod.
Yna maen nhw’n gofyn i chi dynnu swm mawr o arian, y bydd yr heddlu neu'r banc yn ei nodi, yna’n ei roi yn ôl yn y system fancio. Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn eu helpu i adnabod y person llwgr. Ar ôl i chi drosglwyddo'r arian parod, bydd y sgamwyr yn mynd ag e.
Enghraifft arall yw pan fydd swyddog heddlu ffug yn ffonio neu’n dod atoch ac yn gofyn i chi brynu oriawr ddrud neu eitem werthfawr arall, er mwyn gweld os oes nwyddau ffug yn cael eu gwerthu.
Ar ôl i chi brynu’r eitem, bydd y sgamiwr yn dweud wrthoch i’w roi i yrrwr tacsi er mwyn ei drosglwyddo i’r heddlu. Mae’r eitem werthfawr, wrth gwrs, yn mynd i ddwylo partner y sgamiwr.
Y ffordd ddiweddaraf yw lle mae’r sgamiwr yn cysylltu â chi ac yn dweud bod eich cyfrif banc wedi'i gymryd drosodd a bod angen i chi drosglwyddo'r holl arian i ‘gyfrif diogel’. Wrth gwrs, mae’r cyfrif newydd yn cael ei weithredu gan y sgamwyr, sydd wedyn yn dwyn yr arian.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.