Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi dioddef sgam, twyll neu drosedd ar-lein (seiberdrosedd) gallwch riportio’r peth i Action Fraud:
Action Fraud yw'r ganolfan riportio genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddau. Mae'n casglu adroddiadau am dwyll ar ran heddluoedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn achos twyll yn yr Alban, riportiwch y peth yn uniongyrchol i Heddlu'r Alban.
Gallwch riportio fel gwestai, heb gofrestru a heb greu cyfrif.
Ond rydyn ni’n argymell y dylech chi greu cyfrif yn gyntaf, achos wedyn fe allwch chi:
Gallwch riportio sgamiau, twyll a throseddau ar-lein (seiberdroseddau) i Action Fraud, ond fe ddylech chi riportio:
I riportio un o'r rhain dilynwch y dolenni uchod.
Ar ôl i chi riportio rhywbeth i Action Fraud, bydd eich adroddiad yn cael ei anfon at y Swyddfa Gwybodaeth Twyll Genedlaethol (NFIB), sy'n rhan o heddlu Dinas Llundain. Byddan nhw’n penderfynu beth i'w wneud nesaf.
Os bydd yr NFIB yn penderfynu y gall fod digon o wybodaeth yn eich adroddiad i'r heddlu ymchwilio iddo, byddant yn ei anfon at yr heddlu lleol lle digwyddodd y drosedd. Bydd yr heddlu hwnnw'n edrych ar yr wybodaeth ac yn penderfynu a ddylen nhw ymchwilio i'r achos. Dylen nhw ddweud wrthoch chi beth maen nhw'n mynd i'w wneud.
P'un a fydd yr NFIB yn penderfynu anfon eich adroddiad ymlaen at yr heddlu lleol i ymchwilio ai peidio, fe gewch chi wybod beth mae'r NFIB wedi'i wneud o fewn 28 diwrnod ar ôl ichi riportio’r peth (neu pryd bynnag yr anfonoch chi ddiweddariad ddiwethaf).
Fe allai'r NFIB gymryd camau eraill hefyd, er enghraifft dileu gwefannau neu rifau ffôn sy’n cael eu defnyddio i gyflawni twyll.
Er mwyn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’ch adroddiad, mae angen ichi gofrestru gydag Action Fraud cyn ichi riportio. Yna gallwch
ddilyn cynnydd eich adroddiad drwy fewngofnodi i'ch cyfrif.
Ar ôl mewngofnodi, i wirio statws eich adroddiad, cliciwch 'My account’ yn y gornel dde uchaf ac yna cliciwch 'My reports'.
Unwaith y bydd achos wedi'i drosglwyddo i heddlu lleol, nhw sy’n gyfrifol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.
Os bydd yr heddlu'n penderfynu peidio ag ymchwilio i'ch achos fel trosedd, efallai y byddwch yn dal yn gallu cael iawndal neu arian yn ôl drwy ddod ag achos sifil eich hun.
Siaradwch â chyfreithiwr neu asiant adennill asedau i gael rhagor o wybodaeth.