Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw’r cynllun a phwy all wneud cais |
2. Sut i wneud cais |
3. Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais |
4. Gwnewch gais ar-lein |
Ar ôl i chi wneud cais am wybodaeth o dan Gyfraith Sarah, byddwn yn:
Dim ond pan fyddwch chi wedi dweud wrthym sut a phryd i gysylltu’n ddiogel y byddwn yn cysylltu â chi.
Os nad yw eich cais yn dod o dan Gyfraith Sarah a’n bod yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda’ch cais, byddwn yn egluro pam a'r hyn y gallem ei wneud yn lle hynny.
Er enghraifft, os ydych yn amheus ynglŷn ag ymddygiad rhywun ond nad ydych yn gofyn am wybodaeth ar ran plentyn neu blant penodol, ni fyddwn yn gallu rhannu gwybodaeth gyda chi o dan Gyfraith Sarah. Ond rydym yn dal eisiau clywed am eich pryderon, a byddwn bob amser yn gweithredu os bydd angen er mwyn cadw plentyn yn ddiogel.
Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen gyda’ch cais, byddwn yn trefnu cyfweliad trylwyr gyda chi.
Dylai’r cyfweliad ddigwydd o fewn 10 diwrnod i’ch cais.
Fel arfer, bydd yn cael ei gynnal yn bersonol, ond gallai ddigwydd dros y ffôn.
Y rheswm dros y cyfweliad trylwyr yw i ni gael mwy o fanylion a sicrhau bod eich cais yn un dilys.
Ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth i chi am y person rydych yn gofyn amdano yn ystod y cam hwn. Mae’n rhaid i ni gwblhau ein gwiriadau yn gyntaf.
Efallai y byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â chynllun Cyfraith Sarah, a gwybodaeth gyffredinol am gadw plant yn ddiogel.
Yn y cyfweliad trylwyr, bydd angen i chi ddangos i ni:
Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu dangos dau fath o ddull adnabod, a allai gynnwys:
Gellid defnyddio tystysgrif geni neu gofnod personol o iechyd y plentyn (llyfr coch) i brofi eich perthynas â’r plentyn.
Os nad oes gennych y mathau hyn o ddulliau adnabod, ni fydd hynny o reidrwydd yn eich atal rhag gwneud cais. Efallai y bydd yn bosib i rywun arall (fel gweithiwr cymdeithasol neu ymwelydd iechyd) gadarnhau pwy ydych chi neu’r plentyn. Siaradwch â ni am ddulliau adnabod pan fyddwn yn cysylltu â chi er mwyn i ni ddod o hyd i ffordd o’i ddatrys.
Ni allwn ddweud unrhyw beth wrthych o dan Gyfraith Sarah os na allwn gadarnhau eich hunaniaeth neu os ydych yn dewis aros yn anhysbys. Nid yw hynny’n golygu y byddwn yn anwybyddu eich pryderon. Byddwn wastad yn gweithredu os bydd angen i ni gadw plentyn yn ddiogel.
Efallai y byddwn yn gweithredu yn eich erbyn os byddwch chi'n dweud celwydd wrthym yn fwriadol i geisio cael gwybodaeth am rywun.
Nesaf byddwn yn gwneud gwiriadau manylach am y person rydych chi'n gofyn amdano. Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei darganfod i benderfynu a ydyn nhw’n peri risg i’r plentyn neu’r plant rydych yn gofyn amdanyn nhw.
Byddwn yn gweithio gyda phobl eraill fel gofal cymdeithasol, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaethau iechyd i gael gwybod mwy. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni gyda nhw fel rhan o'n hymchwiliad.
Os ydym yn meddwl ein bod yn debygol o rannu gwybodaeth am yr unigolyn yr ydych wedi holi yn ei gylch/chylch, efallai y byddwn yn siarad â nhw ar y pwynt hwn, oni bai ein bod yn teimlo nad yw’n briodol gwneud hynny.
Os yw'n briodol rhannu rhywfaint o wybodaeth, byddwn yn dweud wrth bwy bynnag all ddefnyddio'r wybodaeth orau er mwyn cadw’r plentyn yn ddiogel. Efallai nad y person a wnaeth y cais fydd hwnnw, gallai fod yn rhywun arall (fel rhieni’r plentyn).
Mewn rhai achosion efallai byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda mwy nag un person, os dyna sydd angen i ni ei wneud er mwyn cadw’r holl blant sy’n gysylltiedig yn ddiogel. Er enghraifft, os yw rhiant y plentyn dan 18 oed eu hunain, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda’u rhiant, gofalwr neu weithiwr cymdeithasol.
Os na fyddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chi oherwydd nad chi yw'r person gorau i gadw’r plentyn yn ddiogel, ni fyddwn yn dweud wrthoch ein bod yn rhannu gwybodaeth gyda rhywun arall. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn anwybyddu eich pryderon. Byddwn wastad yn gweithredu os oes angen i ni gadw plentyn yn ddiogel.
Dylai gymryd 45 diwrnod ar y mwyaf o'ch ymholiad cychwynnol hyd at ninnau’n rhannu gwybodaeth (neu’n dweud wrthych nad oes unrhyw beth i'w rannu).
Os ydym yn bwriadu rhannu rhywfaint o wybodaeth gyda chi, gofynnir i chi lofnodi cytundeb cyfreithiol yn addo peidio â dweud wrth unrhyw un arall. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi os na fyddwch yn llofnodi'r cytundeb cyfrinachedd hwn.
Os nad oes gan y person rydych yn gofyn amdano hanes o droseddau rhywiol yn erbyn plant, ac nad ydyn nhw’n peri unrhyw risgiau hysbys neu os na cheir amheuaeth o risg i’r plentyn neu’r plant, yna ni fyddwn yn dweud unrhyw beth wrthych heblaw nad oes unrhyw wybodaeth i'w rhannu.
Nid yw hynny’n golygu’n bendant nad oes unrhyw risg, dim ond nad ydym yn gwybod am unrhyw risgiau. Dylech barhau i gadw’r plentyn yn ddiogel drwy ddilyn ein cyngor ar gam-drin plant.
Efallai y byddwn yn gweithredu yn eich erbyn os byddwch yn rhannu’r wybodaeth ymhellach. Os oes pobl eraill rydych chi'n teimlo y dylen nhw wybod, boed yn deulu neu eraill, rhowch wybod i ni a gallwn benderfynu beth i'w wneud.