Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae olion bysedd a DNA yn cael eu galw’n 'wybodaeth fiometrig'.
Os cewch chi’ch collfarnu am drosedd (gan gynnwys os caiff eich achos ei drafod y tu allan i'r llys, gan ddod i ben gyda rhybuddiad, rhybudd neu gerydd) mae Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn diwygio Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) gan ganiatáu i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr gadw'ch gwybodaeth fiometreg am gyfnod amhenodol.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn esbonio o dan ba amgylchiadau y gall ac y bydd gwybodaeth fiometrig yn cael ei dileu o systemau cenedlaethol yr heddlu, sef Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), y Gronfa Ddata Olion Bysedd Genedlaethol (IDENT1) a'r Gronfa Ddata DNA Genedlaethol (NDNAD).
I weld a oes gennych chi sail dros gais am dynnu gwybodaeth fiometrig o gofnodion yr heddlu, ewch i wefan swyddfa cofnodion troseddol ACRO, sydd â dadansoddiad manwl o'r amgylchiadau y bydden nhw’n ystyried cais odanynt. Mae'r broses hon hefyd yn ymdrin â cheisiadau am ddileu cofnodion arestio neu warediadau y tu allan i’r llys, ee rhybuddiadau.
Rhaid i bob ymholiad o'r math hwn fynd i ACRO, yn hytrach nag i ni.
Rhagor o wybodaeth am gadw a dileu gwybodaeth fiometrig.
Hefyd, gallwch wneud cais am dynnu gwybodaeth o gofnodion cenedlaethol yr heddlu.
Os yw'r data yr hoffech ofyn am ei dynnu yn cael ei gadw'n lleol gan heddluoedd, ee ffotograffau’r ddalfa, gallwch ofyn iddo gael ei ddileu neu ei newid.