Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai y bydd rhai sefydliadau, yn y DU a thramor, yn gofyn i chi ddarparu eich olion bysedd at ddibenion diogelwch.
Gallwch ganfod pa sefydliadau yw’r rhain ac ym mha amgylchiadau y gallwn ni helpu.
Mae angen i mi ddarparu fy olion bysedd er mwyn gweithio i gwmni sy’n masnachu dramor
Diolch. Er mwyn cysylltu â ni ar unrhyw adeg i drefnu apwyntiad, llenwch ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Cliciwch ‘dechrau’ isod i gychwyn.
Cyfartaledd amser cwblhau: 2 funud
Bydd angen i chi fynd i:
Heddlu Gogledd Cymru
Ffordd William Morgan - Llanelwy - DHQ
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0HQ
Dod o hyd i Heddlu Gogledd Cymru ar y map
Amseroedd agor
Mae apwyntiadau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), i 9am i 3.30pm.
Rhaid trefnu apwyntiad.
Beth fydd ei angen arnaf?
Dewch â’r canlynol gyda chi:
Os yw eich pasbort gan y Swyddfa Gartref, gallwn dderbyn llungopi o dudalen manylion adnabod eich pasbort ynghyd â llythyr wedi’i stampio’n swyddogol. Gallwch hefyd ofyn i’ch pasbort gael ei ryddhau o ofal y Swyddfa Gartref am 24 awr.
Rydym fel arfer yn darparu’r ffurflenni olion bysedd sydd eu hangen arnoch, fodd bynnag efallai bydd rhai gwledydd yn gofyn am eu ffurflenni penodol eu hunain. Os ydych angen cliriad ar gyfer:
efallai y bydd angen i chi gael y ffurflenni hyn cyn eich ymweliad a’u cyflwyno i’r Swyddfa Olion Bysedd.
Mae’n rhaid i fenywod sydd eisiau cliriad ar gyfer Iran ddarparu ffotograffau sy’n dangos:
Ni fydd awdurdodau Iran yn derbyn dim byd arall.
Faint mae hyn yn ei gostio?
Un set o olion bysedd: £60
Pob set ychwanegol: am ddim
Sylwer: mae rhai ffioedd olion bysedd yn ddarostyngedig i TAW, oni bai am rai eithriadau CThEM. Y gwledydd sydd wedi’u heithrio yw:
Talwch gydag arian parod ar adeg yr apwyntiad. Nid ydym yn derbyn cardiau debyd na chredyd.
Dechrau