Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Data’r heddluoedd lleol sy’n cael ei ddefnyddio yn y map hwn. Syniad bras yn unig o ble digwyddodd troseddau sy’n cael ei roi gan y mannau problemus. Mae’r gwir leoliadau a manylion y troseddau yn cael eu cadw'n ddienw.
Sylwch nad oes modd dangos pob trosedd a ddigwyddodd ar y map.
Doedd dim modd mapio 1 o ddigwyddiadau Troseddau yn Heddlu Gogledd Cymru i leoliad ac felly dydyn nhw ddim ar y map hwn. Rhagor o wybodaeth am sut mae data'n cael ei reoli ar police.uk.
Mae canlyniadau anonymeiddio lleoliadau yn gywir yn unol â phoblogaeth a datblygiadau tai 2012.
Mae anawsterau hysbys ynglŷn â data heddluoedd wedi’u nodi yn y changelog ar data.police.uk.